Defnydd arloesol CCAF o ddysgu digidol yn sicrhau ei fod yn cadw statws Ysgol Arddangos Microsoft Elevate am yr wythfed flwyddyn yn olynol

29 Medi 2026

Mae defnydd arloesol Coleg Caerdydd a’r Fro o dechnoleg i greu profiadau dysgu cyfranogol a chynhwysol wedi golygu ei fod wedi cadw ei statws fel Ysgol Arddangos Microsoft Elevate am yr wythfed flwyddyn yn olynol.

Cafodd CCAF ei ddewis fel Ysgol Arddangos Microsoft Elevate gyntaf Cymru yn 2018. Mae’r statws yn dynodi bod y Coleg yn arloeswr yn sector Addysg Bellach Cymru a bod ganddo strategaeth ddigidol gref. Mae’r gydnabyddiaeth hon, a oedd yn cael ei hadnabod gynt fel rhaglen Ysgol Arddangos Microsoft, yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Coleg i arloesi digidol, cynhwysiant, a dysgu sy’n cael ei alluogi’n ddigidol.

Mae statws Ysgol Arddangos Microsoft Elevate hefyd yn adlewyrchu arbenigedd y staff ar draws y Coleg a’u sgiliau digidol uwch o ran y technolegau dysgu ac addysgu diweddaraf i gefnogi myfyrwyr. Mae defnyddio’r adnoddau, yr wybodaeth a’r technolegau diweddaraf yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer byd gwaith, sy’n golygu eu bod yn gallu ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tîm Dysgu Digidol CCAF wedi helpu adrannau ar draws y Coleg i ddefnyddio AI i wella eu gwaith. Er enghraifft, mae’r tîm Lles wedi bod yn defnyddio Microsoft Copilot Chat ar gyfer cynnwys, yn amrywio o ddigideiddio deunyddiau ffisegol i ddadansoddi data.

Mae’r staff Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) wedi bod yn defnyddio Copilot Teach i gynhyrchu cardiau fflach geirfa ar gyfer dysgwyr ac mae'r tîm Gwasanaethau Cyhoeddus yn defnyddio Clipchamp i gynhyrchu capsiynau fideo Cymraeg ac mae'r tîm Teuluoedd yn Dysgu yn defnyddio PowerPoint Live a chapsiynau Cymraeg sy’n cael eu cynhyrchu gan ddefnyddwyr, gan arbed amser ac arian.

Mae AI yn cael ei ddefnyddio yn Teams a Learning Accelerators - yn dilyn hyfforddiant y llynedd, mae dosbarthiadau lefel Mynediad 2 yn defnyddio Reading Progress yn wythnosol. Mae adborth wedi dangos bod y dysgwyr yma’n gwneud gwell cynnydd drwy gydol y flwyddyn.

Mae tîm Dysgu Digidol CCAF hefyd yn ymgysylltu'n weithredol â chymunedau dysgu allanol, gan fynychu digwyddiadau EdTech yn rheolaidd ledled y DU i gyfrannu a sicrhau gwybodaeth gyson am arloesi technegol sy'n dod i'r amlwg.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Microsoft wedi parhau i gydnabod ein hymrwymiad ni i Ddysgu Digidol. Mae gennym ni strategaeth sgiliau digidol i ddarparu cyfleoedd a thechnoleg yn barhaus i gydweithwyr a dysgwyr CCAF i feithrin eu sgiliau digidol eu hunain ac mae'r gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda Microsoft yn cefnogi'r ymrwymiad hwnnw.

“Nid yn unig y mae hyn yn gwella profiad y dysgwyr yn y Coleg, gan roi gwybodaeth werthfawr iddyn nhw am fyd gwaith yn eu gyrfaoedd o ddewis, ond hefyd mae'n sicrhau ein bod yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i addysgu a chefnogi ein dysgwyr. Office365 a phecynnau fel Teams ac Outlook yw'r platfformau sy’n cael eu defnyddio fwyaf mewn busnesau ledled y byd ac mae pob dysgwr yn gadael y Coleg yn ddefnyddwyr hyderus ar dechnoleg Microsoft, dim ots pa gwrs maen nhw wedi ei ddilyn – ac fe fydd hynny'n ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.”