Bwyty Coleg Caerdydd a'r Fro, Y Dosbarth, wedi'i enwi fel y gorau yn y DU yng Ngwobrau Lletygarwch AA 2026

23 Medi 2026

Mae Y Dosbarth, bwyty Campws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a'r Fro, wedi cael ei enwi fel Bwyty Coleg y Flwyddyn y DU yng Ngwobrau Lletygarwch AA 2026.

Dyma'r bumed flwyddyn yn olynol i Y Dosbarth gael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr sy'n dangos ymrwymiad rhagorol i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr lletygarwch proffesiynol. Ond eleni fe enillodd y wobr.

Yn fwyty Ewropeaidd modern clasurol yng nghanol Caerdydd, mae Y Dosbarth yn cynnig bwyd tymhorol o ansawdd uchel gyda chynhwysion lleol lle bo modd. Tîm o weithwyr proffesiynol y diwydiant sy'n arwain y bwyty ac mae'n cael ei staffio gan ddysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo'r Coleg.

Fel rhan o'r gystadleuaeth, roedd yn ofynnol i'r myfyrwyr gynllunio, marchnata a chyflwyno digwyddiad elusennol byw. Wedi'i gynnal yn Y Dosbarth gyda chefnogaeth y cogydd enwog Stephen Terry, cododd y digwyddiad bron i £1,700 ar gyfer Hospitality Action, elusen sy'n cefnogi pobl sy'n gweithio yn y sector a allai fod angen cefnogaeth yn eu gyrfa ar gyfer unrhyw beth o iechyd meddwl i bryderon ariannol. Mae'n cwmpasu'r diwydiant Lletygarwch cyfan, o westai i fwytai, tafarndai a bariau neu gaffis i ysgolion, ysbytai a lleoliadau digwyddiadau.

Wedyn teithiodd y tîm, gyda dysgwyr Lletygarwch CCAF, Solomon Bennett, Charlie Burton a Polly Rees, i Westy The Belfry i gyflwyno eu prosiect elusennol i banel o feirniaid gorau'r diwydiant. Cawsant eu barnu ar sail ymwybyddiaeth fasnachol, creadigrwydd, sgiliau cyflwyno, a pha mor effeithiol y gwnaethant godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer yr elusen.

Wedyn roedd yn ofynnol iddynt ymateb i sesiwn holi drylwyr a oedd yn canolbwyntio ar eu penderfyniadau, eu canlyniadau a’u dull masnachol. Disgrifiodd y beirniaid eu gwybodaeth, eu hyder, eu proffesiynoldeb a'u craffter masnachol fel rhagorol ac yn wahanol i unrhyw beth yr oedd y panel wedi'i weld o'r blaen.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i dîm a dysgwyr Y Dosbarth – mae ennill gwobr Bwyty Coleg y Flwyddyn AA wir yn anrhydedd. Mae'r wobr fawreddog yma’n dyst i'ch gwaith caled, eich ymroddiad a'ch proffesiynoldeb rhagorol.”