Mae dwy sydd wedi bod yn ddysgwyr Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerdd) yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, Katie Pritchard a Rhosyn Boyce-Jones, yn mynd i fod yn serennu yng nghynhyrchiad Guys and Dolls Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru eleni.
Yn un o'r sioeau cerdd Americanaidd gorau, mae ffocws Guys and Dolls ar fyd gangsters Efrog Newydd yn y 1950au, ac mae'r digwydd yn symud rhwng caffis Havana a charthffosydd Dinas Efrog Newydd. Gyda’r ddwy bellach yn eu blwyddyn olaf yn astudio Theatr Gerdd yn CBCDC, mae Katie a Rhosyn wedi cael eu castio’n ddwbl fel Miss Adelaide, prif berfformwraig clwb nos Hot Box Girls y sioe.
“Mae chwarae rhan Miss Adelaide yn Guys and Dolls yn wireddu breuddwyd yn sicr,” meddai Rhosyn. “Mae hi’n rôl mor wych i orffen theatr gerdd gyda hi gan mai dyma ein sioe olaf ni yn y Coleg Cerdd a Drama.
“Mae hi’n ddoniol, mae hi’n gwneud llawer o ddawnsio, mae ganddi ganeuon anhygoel ac mae hi’n gymeriad cymhleth iawn. Rydw i’n meddwl fy mod i a Katie yn ceisio mynd at y cymeriad yn ein ffordd ein hunain a dyna sy’n wych am gastio dwbl – mae’r ddwy ohonon ni’n ei chwarae hi yn ein ffordd ein hunain ac rydw i’n gyffrous iawn am orffen y flwyddyn gyda’r sioe gerdd yma.”
Mae Rhosyn yn meddwl bod ei hamser yn astudio Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerdd) wedi ei helpu i symud ymlaen i’w chwrs yn CBCDC.
“Fe ddois i i Goleg Caerdydd a’r Fro heb unrhyw brofiad o theatr gerdd,” eglurodd Rhosyn. “Rydw i’n hoffi canu, rydw i’n hoffi actio, rydw i’n hoffi dawnsio, ond rydw i’n meddwl bod Coleg Caerdydd a’r Fro wedi rhoi’r llwybr ymlaen hwnnw i mi i wneud cais am wahanol ysgolion drama, yn enwedig Simon West ac Alex, yr athrawes dawns, ac fe roddodd yr athro actio’r gefnogaeth i mi pan ddaeth yn amser clyweliad ar gyfer Coleg Brenhinol Cymru.
“Fe roddodd amryw o gyfleoedd i mi i fy nghefnogi i ddod yma a gwneud yr hyn rydw i’n ei wneud heddiw yn y coleg yma.”
“Roedd cael gwybod fy mod i wedi cael y rhan fel Miss Adelaide mor gyffrous,” meddai Katie. “Rydw i’n teimlo’n ddiolchgar iawn ac rydw i hefyd yn falch o fod mewn lle, fel menyw ddu, i allu chwarae rôl fel yr un yma oherwydd yn draddodiadol, ’fyddwn i ddim yn gweld unrhyw un sy’n edrych fel fi yn unrhyw un o’r sioeau cerdd yma.
“Felly mae’n teimlo’n afreal, a dweud y gwir, ac fel y dywedodd Rhos, rydyn ni’n gyffrous ac yn ceisio cyflwyno’r rôl yn ein ffordd ein hunain, ond mae hefyd yn dîm creadigol mor wych ac yn broses hwyliog i allu ei rhannu gyda’n gilydd - mae’n rhyw fath o gylch cyflawn.”
Fel Rhosyn, mae Katie hefyd yn credu bod ei hamser yn CCAF wedi ei helpu i baratoi ar gyfer y llwybr tuag at theatr gerdd.
“Doedd gen i ddim llawer o brofiad o gwbl mewn theatr gerdd cyn i mi ymuno â CCAF,” meddai Katie. “Felly fe roddodd gwneud y cwrs amser i mi archwilio beth mae’n ei olygu i ymrwymo i’r diwydiant yma - pa flociau adeiladu fyddai arnaf i eu hangen i gael lle mewn ysgol ddrama.
“Fe hoffwn i ddiolch hefyd i Alex, ein hathrawes ddawns, oherwydd ei bod hi’n berson mor hyfryd, ac roeddwn i’n mynd drwy gyfnod anodd iawn yn y coleg, felly roedd cael rhywun fel hi mor gefnogol ac yn fy annog i fagu fy hyder - oni bai am bobl fel hi mewn colegau, ’fyddwn i ddim wedi mynd i ysgol ddrama.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau i Katie a Rhosyn! Mae chwarae rhan mor bwysig mewn cynhyrchiad mor nodedig o Guys and Dolls yn gamp aruthrol.
“Mae gallu perfformio mewn cynhyrchiad gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn fraint enfawr ac rydyn ni i gyd yn hynod falch o Katie a Rhosyn. Fe hoffwn i hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i fy nghydweithwyr i yn CCAF sydd wedi eu cefnogi nhw i gyrraedd y lefel yma.”
Mae cynhyrchiad Cwmni Dawns Richard Burton Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o Guys and Dolls yn cael ei gynnal yn Theatr y Sherman o'r 1af i'r 6ed o Orffennaf. Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, cliciwch yma.