Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn arwain y gad o ran cefnogi athletwyr talentog ym myd addysg yng Nghymru, ar ôl cael achrediad gan fenter arloesol y Cynllun Ysgoloriaeth i Athletwyr Talentog (TASS).
Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chefnogi gan Sport England, yn helpu mabolgampwyr ar y llwybr talent i gael y cyfle i ennill cymwysterau ochr yn ochr â’u gweithgareddau chwaraeon, i fwynhau diddordebau eraill, ac i ddatblygu’n bersonol.
Mae’r achrediad TASS yn ategu gwaith Academïau Chwaraeon Coleg Caerdydd a’r Fro. Mae’r rhain yn cynnwys dysgwyr ar draws y Coleg sy’n astudio amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd.
Maen nhw’n darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno hyfforddi a chyfleusterau chwaraeon o’r safon uchaf â phortffolio cyrsiau eang y Coleg. Mae modd i chwaraewyr gamu ymlaen yn eu gyrfa chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer bywyd y tu allan i chwaraeon hefyd.
Drwy gydnabod yn ffurfiol ymrwymiad sefydliad i gefnogi athletwyr sy’n fyfyrwyr, nod Achrediad Gyrfa Ddeuol TASS yw caniatáu i athletwyr wireddu eu potensial ym myd addysg law yn llaw â llwyddo ym myd chwaraeon.
Mae cyfeiriad at yr achrediad yn adran addysg Adolygiad y Farwnes Tanni Grey-Thompson o Ddyletswydd Gofal mewn Chwaraeon, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2017, ac mae’n dangos bod coleg neu brifysgol yn meddu ar y gallu i gefnogi dysgwyr sy’n dilyn llwybr gyrfa ddeuol. Gan gefnogi’r cynllun, dywedodd:
“Rydw i’n credu bod gennym ni ddyletswydd i helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial, yn ogystal â blaenoriaethu eu lles a’u haddysg. I’r mwyafrif helaeth o athletwyr, mae angen sgiliau a chymwysterau ffurfiol i’w helpu i ddod o hyd i yrfa arall, naill ai ochr yn ochr â’u gweithgareddau chwaraeon neu ar ôl i’r dyddiau hynny ddod i ben.
“Rydw i’n credu’n bersonol bod Achrediad Gyrfa Ddeuol TASS yn fesur hollbwysig i sicrhau bod pob athletwr yn cael cyfle i gael addysg, ac i fabwysiadu agwedd fwy cymesur at fywyd.”
Fel Safle ag Achrediad Gyrfa Ddeuol, bydd Coleg Caerdydd a’r Fro yn estyniad pwysig i’r rhwydwaith o brifysgolion sydd eisoes yn gweithio mewn partneriaeth â TASS, gan ddarparu gwasanaethau cymorth craidd i dros 600 o athletwyr sy’n fyfyrwyr bob blwyddyn.
Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys ffisiotherapi, maeth, cymorth ffordd o fyw, seicoleg, cryfder a chyflyru, a chynllun meddygol preifat.
Er bod rhai o’r gwasanaethau sy’n bodoli’n barod yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ddatblygu perfformiad chwaraeon y bobl ifanc, mae strwythur cymorth gyrfa ddeuol a pholisïau hyblygrwydd academaidd yn rhan hanfodol o’r cymorth sydd ar gael i athletwyr mewn safle sydd wedi’i achredu.
Mae pob safle ag Achrediad Gyrfa Ddeuol yn cael hyfforddiant a phecyn adnoddau i’w helpu i gynnig cymorth gyrfa ddeuol, a dod â phawb sy’n gweithio gyda’r athletwr ynghyd.
I athletwyr sy’n fyfyrwyr, mae’n bosib y bydd y polisïau hyblygrwydd academaidd yn golygu bod ganddyn nhw’r cyfle i gael gafael ar nodiadau neu adnoddau ar-lein, yn gallu trefnu sesiynau dal i fyny gydag athrawon, neu hyd yn oed yn gallu aildrefnu dyddiadau cyflwyno neu arholiadau mewn amgylchiadau eithriadol.
Ar gyfer Coleg Caerdydd a’r Fro, mae disgwyl y bydd y gydnabyddiaeth o fod yn Safle ag Achrediad Gyrfa Ddeuol TASS yn fuddiol drwy ddenu nifer uwch o athletwyr talentog, a meithrin cysylltiadau â sefydliadau chwaraeon lleol eraill.
Dywedodd Guy Taylor, Cyfarwyddwr Cenedlaethol TASS: “Mae’n bleser cael dyfarnu Achrediad Gyrfa Ddeuol TASS i golegau a phrifysgolion ar draws Cymru a Lloegr.
“Mae cymorth gyrfa ddeuol yn rhan flaenllaw o’r hyn y mae TASS yn ei gynnig, a dyna pam mae’r Cynllun Achredu mor bwysig i ni, i gydnabod y sefydliadau hynny sy’n blaenoriaethu addysg eu hathletwyr hefyd.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd y polisïau hyblygrwydd academaidd sydd wedi’u rhoi ar waith ar gyfer yr Achrediad yn arwain at ddatblygu strwythur gyrfa ddeuol effeithiol a pharhaol ym mhob sefydliad.
“Llongyfarchiadau i’r sefydliadau llwyddiannus, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda llawer mwy o golegau a phrifysgolion rhagorol yn y dyfodol agos.”
Dywedodd Sharon James-Evans, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydyn ni’n falch iawn o gael Achrediad Gyrfa Ddeuol TASS. Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, mae ein Hacademïau Chwaraeon yn helpu dysgwyr ar draws y Coleg i ddatblygu sgiliau chwaraeon elît, gan gydbwyso hynny â’u hastudiaethau, a bydd yr Achrediad hwn yn datblygu’r cymorth hwnnw ymhellach.”