Coleg Caerdydd a’r Fro yn cyhoeddi cefnogaeth i Ŵyl Fach y Fro 2026

5 Mai 2026

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CCAF) unwaith eto’n falch o gefnogi’r Ŵyl Fach y Fro boblogaidd pan fydd yn dychwelyd i Ynys y Barri ddydd Sadwrn 16eg Mai 2026.

Wedi ei threfnu gan Fenter Iaith Bro Morgannwg, Gŵyl Fach y Fro yw’r dathliad mwyaf o ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg ym Mro Morgannwg ac mae'n ddigwyddiad amlwg yng nghalendr y Barri. Ac mae’r ŵyl flynyddol unigryw hon yn cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth fyw gan fandiau Cymraeg adnabyddus hyd at ysgolion lleol, diodydd a bwyd stryd, stondinau celf a chrefft a gweithdai plant ar hyd Gerddi a Phromenâd Ynys y Barri.

Coleg Caerdydd a’r Fro yw prif bartner yr ŵyl, partneriaeth sy’n cyd-fynd ag ymrwymiad y Coleg i gynyddu’r cyfleoedd i bawb siarad, darllen a byw drwy’r Gymraeg. Mae’r coleg yn falch o gynnig dysg, cymorth ac asesiadau dwyieithog i siaradwyr Cymraeg, i alluogi pawb i barhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar gyfer eu bywyd a gwaith yn y dyfodol. Mae hefyd yn annog siaradwyr di-Gymraeg i ddatblygu eu sgiliau ac i bawb ymgysylltu â diwylliant Cymru, y Gymraeg a bywyd drwy’r Gymraeg yn ystod eu cyfnod yn y coleg.

Bydd safle’r ŵyl dafliad carreg oddi wrth safle campws newydd y Coleg yng Nglannau’r Barri, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd y cyfleuster o’r radd flaenaf yn ehangu cyfleoedd i ddysgwyr ac yn darparu gofodau modern a hygyrch y bydd y gymuned ehangach yn elwa ohonynt.

Bydd gan CCAF bresenoldeb yn Ynys y Barri ar 17eg Mai yn ogystal, lle bydd yn Gefnogwr Digwyddiad.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Mae CCAF yn falch iawn o fod yn prif bartner Gŵyl Fach y Fro. Fel y coleg mwyaf yng Nghymru, rydym yn falch o fod wedi ymrwymo i gynyddu’r cyfleoedd i bawb Siarad, Dysgu a Byw yn Gymraeg. Bob blwyddyn, mae gennym nifer cynyddol o ddysgwyr yn defnyddio eu Cymraeg yn eu dysg ac ar gyfer eu dyfodol.

“Rydym yn credu’n gryf bod y Gymraeg i bawb, ac rydym yn cefnogi diwylliant cynhwysol lle mae’r Gymraeg yn cael ei gweld a’i chlywed ar draws ein coleg, gan ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg, ennyn diddordeb pawb yn ein treftadaeth a’n diwylliant, a normaleiddio’r iaith i bawb.

Mae Gŵyl Fach y Fro yn ddathliad gwych o gelfyddydau a diwylliant Cymru ac yn ffordd gynhwysol a hyfryd o ennyn diddordeb pawb yn ein hiaith a’n gwlad”.

I ddysgu mwy am gynnig Cymraeg CCAF, mae manylion i'w cael yma, neu gallwch ddod draw i’n gweld ni yn y digwyddiad er mwyn cael sgwrs a chael ambell eitem am ddim.