Dyfarnu Gwobr Hyfforddi’r Dywysoges Frenhinol i Goleg Caerdydd a'r Fro am hyfforddi a datblygu cydweithwyr yn effeithiol

19 Ebr 2026

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi derbyn Gwobr Hyfforddi fawreddog y Dywysoges Frenhinol am ei ymrwymiad eithriadol i ddysgu a datblygu a rhaglenni hyfforddi effeithiol i gydweithwyr.

Mae Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol, fel Llywydd City & Guilds, yn gwobrwyo cyflogwyr sydd â rhaglenni hyfforddi a datblygu sgiliau rhagorol sydd wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu busnes neu eu staff. Mae'r gwobrau mawreddog, sydd yn eu degfed flwyddyn bellach, ar agor i gyflogwyr ar draws pob sector yn y DU.

Datblygwyd rhaglen Addysgu ar gyfer Rhagoriaeth Coleg Caerdydd a'r Fro i sicrhau bod CCAF yn cyflwyno addysgu a dysgu effeithiol ac effeithlon sy'n cefnogi llwyddiant dysgwyr ac yn datblygu ymarferyddion addysgu yn barhaus. Gyda mwy na 200 o gydweithwyr addysgu yn cwblhau'r rhaglen lawn a 500 yn rhagor yn sicrhau mynediad i fodiwlau wedi'u targedu, roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn.

Mae modiwlau Addysgu ar gyfer Rhagoriaeth wedi'u cynllunio i gynnwys sesiynau ystafell ddosbarth wedi'u hwyluso, darllen pedagogaidd, gweminarau, clipiau fideo, camau gweithredu ymarferol, ac ymchwil ystafell ddosbarth wedi'i ymgorffori. Mae unedau dysgu ar-lein pwrpasol gyda chofnodion adlewyrchol yn cyd-fynd â’r modiwlau ac mae athrawon yn mynychu sesiynau a gweithdai i gefnogi prosiectau ymchwil yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r rhain yn cael eu hategu gan ymweliadau ystafell ddosbarth a hyfforddiant gan Arweinwyr Rhagoriaeth. Mae'r rhaglen yn dod i ben gyda TeachMeet lle mae prosiectau'n cael eu rhannu.

Mae'r rhaglen, sydd wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd bellach, yn parhau i dyfu a datblygu, gydag adborth cadarnhaol parhaus gan gydweithwyr ar y gefnogaeth mae'n ei darparu ar gyfer eu hymarfer a'r effaith mae'n ei chael ar lwyddiant y dysgwyr.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni wrth ein bodd yn derbyn Gwobr Hyfforddi’r Dywysoges Frenhinol. Fel sefydliad dysgu, rydyn ni’n rhoi sgiliau a datblygiad cymuned gyfan CCAF – cydweithwyr, dysgwyr a'r gymuned ehangach – wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

“Rydyn ni’n falch o'r rhaglen Addysgu ar gyfer Rhagoriaeth – mae posib gweld yr effaith mae wedi'i chael yn yr ystafell ddosbarth ac mae ei phoblogrwydd yn dyst i hynny. Mae wedi bod yn llwyddiannus wrth gyflawni ei hamcanion o greu ymarferyddion adlewyrchol, a'r nod parhaus o ymdrechu am ragoriaeth.

“Hoffem ddiolch i’r Dywysoges Frenhinol am y wobr hon a’r gydnabyddiaeth o bwysigrwydd hyfforddiant i fynd i’r afael â bylchau sgiliau a phwysigrwydd buddsoddi yn eich gweithlu. Rydyn ni’n falch o bawb sy’n ymwneud â CCAF ac yn arbennig o falch o fod wedi derbyn y wobr hon.”