Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn nodi carreg filltir bwysig wrth i waith adeiladu ddechrau ar ddau gampws nodedig newydd ym Mro Morgannwg

19 Chw 2026

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CCAF) wedi dathlu carreg filltir bwysig yn natblygiad dau gampws nodedig newydd ym Mro Morgannwg, gan nodi dechrau swyddogol i’r gwaith adeiladu ar Gampws Glannau’r Barri a’r Ganolfan Technoleg Uwch.

Cafodd y garreg filltir ei nodi mewn sermoni torri’r dywarchen a fynychwyd gan bartneriaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Addysg Cymru (CPAC), Bouygues UK, Cyngor Bro Morgannwg a Choleg Caerdydd a’r Fro, ochr yn ochr â chynrychiolwyr ar draws y tîm prosiect a’r grŵp rhanddeiliaid ehangach sy'n darparu'r campysau newydd ar gyfer y Fro. Mynychwyd y digwyddiad yn ogystal gan Aelod y Senedd dros Fro Morgannwg, Jane Hutt AS, sydd wedi cefnogi’r prosiect o’r cychwyn cyntaf.

Mae’r datblygiad yn rhan ganolog o fuddsoddiad £119 miliwn y Coleg mewn hyfforddiant a sgiliau ym Mro Morgannwg ac mae’n cael ei ddarparu drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Gyda’i gilydd, mae’r ddau gampws yn cynrychioli ymrwymiad sylweddol i greu amgylcheddau dysgu modern a chynhwysol sydd â phwyslais ar y dyfodol ac sy’n ymateb yn uniongyrchol i anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r gymuned leol.

Bydd Campws Glannau’r Barri yn dod yn gampws bywiog sy'n canolbwyntio ar y gymuned yng nghanol y Barri, gan ddarparu addysg a chyfleoedd hyfforddiant o safon uchel i bobl ifanc ac oedolion, a hynny mewn lleoliad amlwg a hygyrch. Bydd y campws yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi twf economaidd lleol, ehangu cyfranogiad a chreu gofod croesawgar ar gyfer dysgwyr o bob oed, busnesau a phartneriaid cymunedol.

Wedi’i leoli ger Maes Awyr Caerdydd, bydd pwyslais y Ganolfan Technoleg Uwch ar ddarparu’r sgiliau technegol a digidol uwch sydd eu hangen gan gyflogwyr nawr ac yn y dyfodol. Bydd y ganolfan, a adeiladwyd yn bwrpasol er mwyn cefnogi arloesedd, cydweithio â diwydiant a hyfforddiant blaengar, yn atgyfnerthu cysylltiadau rhwng addysg a chyflogaeth, gan helpu i ddatblygu gweithlu hynod fedrus i gefnogi diwydiannau rhanbarthol allweddol, sectorau twf y dyfodol a chefnogi trawsnewid sero net Cymru.

Meddai'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

“Rydym yn hynod falch o gefnogi prosiect dau gampws Coleg Caerdydd a’r Fro fel rhan o’n Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy drwy ein Model Buddsoddi Cydfuddiannol arloesol. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i Addysg Bellach yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld dysgwyr yn ffynnu a datblygu yn y cyfleusterau newydd cyffrous hyn.”

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a'r Fro, Mike James:

“Mae'n bleser gennym nodi’r garreg filltir bwysig yma ar gyfer dau gampws fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau Bro Morgannwg. Mae’r datblygiadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu amgylcheddau dysgu o safon uchel ar gyfer ein cymuned a’n cyflogwyr, yn ogystal â’n hawydd i fuddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol.

“Wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo, edrychwn ymlaen at ymgysylltu gyda phobl ifanc, teuluoedd, grwpiau cymunedol a chyflogwyr, gan sicrhau bod pawb yn rhan o’r daith wrth i’r campysau hyn ddatblygu. Pan fydd y drysau’n agor ym mis Medi 2027, bydd y gofodau hyn yn perthyn i’r gymuned maent yn eu gwasanaethu, gan ddarparu buddion addysgiadol, cymdeithasol ac economaidd hirdymor i’r Fro.”

Meddai Christian Stanbury, Prif Weithredwr CPAC, “Roedd hi'n fraint mynychu seremoni torri'r dywarchen yr wythnos hon ar Gampws Glannau’r Barri - carreg filltir fawr fydd yn dod â’r prosiect uchelgeisiol hwn yn fyw. Mae’r foment hon yn ganlyniad cydweithrediad ac ymrwymiad eithriadol ar draws y bartneriaeth, gan gynnwys CPAC, Coleg Caerdydd a’r Fro, Bouygues UK, Meridiam, Banc Datbygu Cymru, ein cyllidwyr, a’r unigolion niferus sy’n gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llen er mwyn ei gwneud yn bosib.

“Bydd Campws Glannau’r Barri a champysau'r Ganolfan Technoleg Uwch yn chwarae rôl drawsnewidiol yn eu cymunedau, gan greu gofodau arbennig ar gyfer addysgu a dysgu myfyrwyr, ac ymgysylltu gyda’r gymuned ehangach am flynyddoedd lawer i ddod.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Bouygues UK ar gyfer Cymru a’r De-orllewin, Mark Cesenek, “Mae torri’r dywarchen gyntaf ar safle'r gwaith adeiladu cyffrous ac arloesol hwn yn nodi dechrau rhywbeth gwirioneddol arbennig. Er bod heddiw’n nodi torri’r dywarchen gyntaf yn swyddogol, rydym yn falch bod y gwaith eisoes wedi hen ddechrau, gyda chynnydd sylweddol wedi’i gyflawni, yn cynnwys llety ar y safle, adfer y tir, gosod cydrannau strwythurol concrid dwfn, a gwaith sylfeini a draenio. Yn yr wythnosau sydd i ddod, bydd fframiau dur yn dechrau codi o’r tir, gan ddod â’r datblygiad hwn yn fyw.

Fel y prosiect Addysg Bellach Sero Net cyntaf yng Nghymru, daw'r ddau gampws yn amgylcheddau dysgu gwirioneddol gynaliadwy lle bydd miloedd yn dysgu ynddynt bob blwyddyn, gan ddod â buddion datblygiad economaidd a chymunedol sylweddol i’r Fro. Mae disgwyl i’r ddau gampws agor yn haf 2027.