Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi gorffen ar ben y tabl medalau yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK eleni.
Rhannodd y Coleg y safle uchaf gyda Choleg Sir Benfro, gyda’r ddau goleg yn ennill 13 pwynt medal. Yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK, mae medal aur yn gyfwerth â phedwar pwynt, arian yn dri phwynt, efydd yn ddau bwynt a Chymeradwyaeth Uchel yn gyfwerth ag un pwynt .
Y medalau a gyflwynwyd i gystadleuwyr CCAF oedd:
• Belal Al Haka – aur mewn Atgyweirio Cyrff Modurol
• Daniel James – arian mewn Technegydd Seilwaith Rhwydwaith
• Oliver Thomas – arian mewn Technoleg Cerbydau Trwm
• Anisa Abdin – Cymeradwyaeth Uchel mewn Therapi Harddwch
• Daniel Pitman – Cymeradwyaeth Uchel mewn Technegydd TG
Dywedodd Belal Al Haka: “Mae ennill aur yn teimlo’n rhagorol a dwi’n falch iawn ohono. Mae’n deimlad gwych i weld yr holl waith caled yn talu ar ei ganfed.
“Wnes i fwynhau’r gystadleuaeth yn fawr. Roedd yn heriol ond yn werth chweil, gan fy ngwthio i berfformio ar lefel uwch nag erioed o’r blaen.”
Talodd deyrnged i'r cymorth a gafodd gan CCAF i'w helpu i ddatblygu i fod y gorau o ran beth mae’n ei wneud yn y DU.
“Chwaraeodd y cymorth gan y Coleg rôl enfawr yn fy llwyddiant,” eglurodd Belal. “Roedd arweiniad, hyfforddiant ac anogaeth barhaus fy nhiwtoriaid yn fy helpu i baratoi’n gyflawn a theimlo’n hyderus wrth ddechrau’r gystadleuaeth.”
Mae Belal yn credu fod cystadlaethau fel WorldSkills yn chwarae rôl hollbwysig, a bod cymryd rhan yn fuddiol iawn i'r dyfodol.
“Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth sgiliau hon wedi cynyddu fy hyder yn fawr ac mae’n brofiad gwerthfawr ar gyfer fy nyfodol,” meddai Belal. “Mae hi wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau technegol a’m meddylfryd ar gyfer fy ngyrfa wrth symud ymlaen.”
“Roedd ennill medal aur yn syrpreis llwyr,” dywedodd Daniel James. “O siarad gyda’r lleill, roedd yn ymddangos ein bod ni i gyd i ffeindio’r un meysydd yn anodd. Doedd gen i ddim syniad pwy fydd yn ennill, ond doeddwn i ddim yn disgwyl i ennill fy hun - roeddwn i'n falch i gyrraedd y rowndiau terfynol, a dwi wir yn dal i deimlo sioc o ennill aur.
“Mwynheuais bob agwedd o’r gystadleuaeth gan fy mod nid yn unig wedi cael hwyl yn gwneud yr hyn rwy'n ei garu mewn cyfrifiadura ac arddangos fy sgiliau, ond cefais amser gwych hefyd yn cwrdd a chymdeithasu â'r cystadleuwyr eraill. Roedd yr holl brofiad yn anhygoel ac yn helpu i fy ngwthio i fynd y tu hwnt i beth sy’n gyfarwydd a chyfforddus i mi.”
Roedd Daniel hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth a chymorth y Coleg.
“Rwyf wedi cael tiwtoriaid gwych yn yr Adran Gyfrifiadura sydd wedi fy nghefnogi drwy gydol fy amser yn CCAF," meddai. "Heb eu cefnogaeth a'u harweiniad dydw i ddim yn credu y byddwn i lle rydw i nawr ac rwy'n hynod ddiolchgar fy mod wedi cael fy addysgu ganddyn nhw.”
Mae hefyd yn credu y bydd cymryd rhan yn sylfaen da iddo ar gyfer y dyfodol.
“Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau yn bendant wedi fy helpu i fod yn fwy uchelgeisiol gyda fy newisiadau, fel rhoi'r hyder i mi wneud cais i brifysgolion da, yr wyf eisoes wedi derbyn cynigion ganddynt," esboniodd Daniel. "Rwyf hefyd yn credu fy mod wedi ennill llawer o sgiliau technegol a sgiliau bywyd gwerthfawr ac rwy'n gobeithio y bydd yn fy helpu i sefyll allan i gyflogwyr yn y dyfodol”.
Yn ogystal â'r llwyddiannau yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK, yn Rowndiau Terfynol SkillBuild UK enillodd dysgwyr CCAF Travis Huntley a Joseph Burgess fedalau arian ac efydd yn y drefn honno mewn Teilsio Wal a Llawr.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: "Llongyfarchiadau i'r holl ddysgwyr a enillodd fedalau a chanmoliaethau – mae'n gyflawniad anhygoel ac mae'n eich gosod ymhlith y gorau yn yr hyn rydych chi'n ei wneud yn y DU!
“Yn CCAF rydym yn credu'n angerddol mewn cystadlaethau sgiliau a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae, ac roedd yn fraint i ni fod yn brif westeiwr ar gyfer Rowndiau Terfynol WorldSkills UK eleni. Mae dod yn gyd-gyntaf yn y DU yn gyflawniad aruthrol ac yn dyst nid yn unig i'n dysgwyr hynod dalentog, ond hefyd i waith caled ac ymroddiad staff y Coleg sydd wedi gweithio'n ddiflino i'w cefnogi i'r lefel hon."