Mwy o oedolion nag erioed yn dilyn cwrs gyda CCAF i gyrraedd eu nod

11 Medi 2025

Ar ddechrau’r Wythnos Dysgu Oedolion (15fed-21ain Medi), mae CCAF yn dathlu'r miloedd o oedolion sy'n dysgu gyda'r Coleg bob blwyddyn i ddatblygu eu sgiliau, gwneud cynnydd neu newid eu gyrfa.

Yn 2024-25, manteisiodd mwy o oedolion nag erioed ar y cyrsiau y mae'r Coleg yn eu cynnig i helpu i gyflawni eu nod.

Fel un o'r colegau mwyaf yn y DU, mae CCAF yn cynnig ystod enfawr o gyrsiau ynghyd â'r amgylchedd a’r gefnogaeth i oedolion sy'n dysgu ochr yn ochr â gwaith, bywyd ac ymrwymiadau eraill. Ac mae cyllid amrywiol ar gael i helpu oedolion i ddysgu am ddim neu am bris is.

Mae'r ddarpariaeth helaeth i oedolion yn cynnwys cyrsiau i ddatblygu sgiliau hanfodol a dychwelyd i ddysgu; cyrsiau Mynediad sy'n caniatáu mynediad cyflym i'r brifysgol; cymwysterau diwydiant proffesiynol i helpu pobl i roi sylw i yrfa neu ei newid; cyfleoedd arloesol i ddysgu'r dechnoleg a'r datblygiadau diweddaraf i gefnogi neu amrywio gwaith a chyrsiau prifysgol i astudio pwnc a chymhwyso ar gyfer proffesiwn. Felly, beth bynnag yw'r nod, mae cwrs ar gael i agor y drws ar yr yrfa rydych chi eisiau ei dilyn.

Roedd David Murphy eisiau dychwelyd i addysg a mynd i'r brifysgol. Dewisodd gwrs Mynediad dwys am flwyddyn, sydd wedi'i gynllunio fel llwybr cyflym i'r brifysgol. Dewisodd David y cwrs Mynediad i'r Gwyddorau Cymdeithasol, ond mae’r pynciau eraill yn cynnwys Nyrsio, Biowyddorau, Cyfrifiadura, Addysgu Blynyddoedd Cynnar, Gwyddorau Iechyd a'r Dyniaethau.

“Fe wnes i fwynhau fy amser yn astudio yn CCAF yn fawr iawn,” meddai David. “Roedd yn wych cael cyfle arall i fynd ymlaen i Addysg Uwch; profiad wnaeth wir newid fy mywyd i.”

Mae cyrsiau ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn datblygu sgiliau hanfodol mewn Saesneg, Mathemateg a Sgiliau Digidol. Mae Bafra Sabir yn astudio ESOL gyda CCAF, aeth ymlaen i ddilyn cwrs Mynediad i Fiowyddorau ac mae bellach yn astudio Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe.

“Yr hyn roeddwn i wir yn ei werthfawrogi am CCAF oedd yr amgylchedd cefnogol,”
meddai Bafra. “Roedd y staff yn llawn anogaeth ac roedd yr adnoddau ar y campws yn gwneud byd o wahaniaeth.”

Mae'r Coleg hefyd yn cynnig ystod eang o gyrsiau Rhan Amser a Phroffesiynol i helpu pobl i wneud cynnydd neu newid gyrfa, gan gynnwys cymwysterau proffesiynol uchel eu parch yn y diwydiant ar gyfer ystod eang o sectorau. Mae’r cyrsiau'n dechrau drwy gydol y flwyddyn.

Astudiodd Harris Stone Ddiploma CIPD mewn Rheolaeth Strategol ar Bobl. Dywedodd: “Mae'r Coleg yn teimlo'n gynhwysol iawn; roedd y cwrs yn wych ac mae'r cyfleoedd gewch chi o wneud cymhwyster fel yr un yma’n ddiddiwedd.”

Astudiodd Jennifer Lewis Ddiploma mewn Cwnsela Therapiwtig. Dywedodd: “Ar ôl gyrfa yn y sector cyfreithiol, fe wnes i benderfynu ailhyfforddi i gael gyrfa mewn cwnsela. Mae wedi bod yn wych gallu defnyddio popeth rydw i wedi'i ddysgu yn fy ngyrfa newydd. Mae'r Coleg wir wedi fy helpu i i gyflawni fy uchelgais.”

Gallwch hefyd astudio un o amrywiaeth eang Coleg Caerdydd a'r Fro o gyrsiau Addysg Uwch i astudio am radd.

Dilynodd Lauren Willacott Brentisiaeth Uwch mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig. Dywedodd: “Mae'r amgylchedd yn gyfeillgar iawn ac mae'r athrawon yn brofiadol iawn felly maen nhw'n gwybod popeth am bob agwedd ar y diwydiant. Mae wedi bod yn wych datblygu fy ngyrfa, gan ddysgu wrth weithio. Rydw i'n falch iawn o fod wedi graddio.”

I gael gwybod mwy am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd y gall CCAF eu cynnig i ddysgwyr sy'n oedolion, ewch i: https://cavc.ac.uk/en/cavc-for/adults