Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CCAF) yn falch eto o gefnogi’r Ŵyl Fach y Fro boblogaidd pan mae’n dychwelyd i Ynys y Barri ddydd Sadwrn yma'r 17eg Mai.
Wedi ei threfnu gan Menter Iaith Bro Morgannwg, Gŵyl Fach y Fro yw’r dathliad mwyaf o’r Gymraeg a diwylliant Cymru ym Mro Morgannwg ac yn ddigwyddiad sy’n sefyll allan yng nghalendr y Barri. Dyma ddegfed flwyddyn yr ŵyl, ac mae’r ŵyl flynyddol unigryw hon yn cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth fyw gan fandiau Cymraeg adnabyddus hyd at ysgolion lleol, diodydd a bwyd stryd, stondinau celf a chrefft a gweithdai plant ar hyd Gerddi a Phromenâd Ynys y Barri.
Coleg Caerdydd a’r Fro yw prif bartner yr ŵyl, partneriaeth sy’n cyd-fynd ag ymrwymiad y Coleg i gynyddu’r cyfleoedd i bawb siarad, darllen a byw drwy’r Gymraeg. Mae’r coleg yn falch o gynnig dysg, cymorth ac asesiadau dwyieithog i siaradwyr Cymraeg, i alluogi pawb i barhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar gyfer eu bywyd a gwaith yn y dyfodol. Mae hefyd yn annog siaradwyr di-Gymraeg i ddatblygu eu sgiliau ac i bawb ymgysylltu â diwylliant Cymru, y Gymraeg a bywyd drwy’r Gymraeg yn ystod eu cyfnod yn y coleg.
Gyda bron i 70 mlynedd o hanes o weithio yn y Barri, mae’r coleg yn ddiweddar wedi cadarnhau buddsoddiad £119miliwn i’r Fro, gyda dau gampws newydd sbon - campws cymunedol yng Nglannau’r Barri sydd dafliad carreg o’r ŵyl, a Champws Technoleg Uwch ger Maes Awyr Caerdydd. Bydd y datblygiadau cyffrous hyn yn cyfoethogi’r cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc, oedolion a’n cymuned, nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Mae CCAF yn falch iawn o fod yn prif bartner Gŵyl Fach y Fro. Rydym yn falch o fod y coleg mwyaf yng Nghymru ac wedi ymrwymo i gynyddu’r cyfleoedd i bawb Siarad, Dysgu a Byw yn Gymraeg. Bob blwyddyn, mae gennym fwy a mwy o ddysgwyr yn defnyddio eu Cymraeg yn eu dysgu ac ar gyfer eu dyfodol.
“Mae gennym hefyd egwyddor fod y Gymraeg i bawb, ac rydym yn cefnogi diwylliant cynhwysol lle mae’r Gymraeg yn cael ei gweld a’i chlywed ar draws ein coleg, gan ddatblygu sgiliau Cymraeg, ac ennyn diddordeb pawb yn ein treftadaeth a’n diwylliant, a normaleiddio’r iaith i bawb.
“Mae Gŵyl Fach y Fro yn ddathliad gwych o gelfyddydau a diwylliant Cymru ac yn ffordd gynhwysol a hyfryd o ennyn diddordeb pawb yn ein hiaith a’n gwlad.”
I ddysgu mwy am ddarpariaeth Gymraeg CCAF, gallwch ddod o hyd i fanylion yma, neu dewch draw i’n gweld ni yn y digwyddiad i gael sgwrs a chasglu nwyddau am ddim.