Coleg Caerdydd a’r Fro yn ennill y teitl pencampwyr Farsiti Colegau Cymru

24 Ebr 2025

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill y teitl pencampwyr yng nghystadleuaeth agoriadol Farsiti Colegau Cymru, yn erbyn Coleg Gŵyr Abertawe mewn chwe digwyddiad chwaraeon. 

Yn ystod y diwrnod o gystadlu a gynhaliwyd ar ddydd Gwener 11eg Ebrill ar draws lleoliadau chwaraeon CCAF, roedd cystadlu tanbaid mewn cystadlaethau chwaraeon, gan gynnwys pêl-rwyd, boccia, pêl-fasged, ILS, a phêl-droed merched a dynion, gyda CCAF yn fuddugol ym mhedwar o’r chwe digwyddiad, gan olygu eu bod yn hawlio’r teitl cyffredinol. 

Yn gyntaf, Enillodd dîm pêl-rwyd y Gŵyr gystadleuaeth gyntaf y diwrnod. Yna CCAF oedd yn fuddugol yn y tri digwyddiad nesaf - boccia, pêl-fasged a phêl-droed ILS - gan eu rhoi ar y blaen yn gyffredinol, gyda gemau pêl-droed merched a dynion ar ôl i’w chwarae. Enillodd merched Coleg y Gŵyr eu gêm nhw, gyda’r diwrnod yn gorffen â buddugoliaeth o 3-2 i dîm pêl-droed dynion CCAF. 

Dywedodd Uwch Bennaeth Chwaraeon, Twristiaeth a Gwasanaethau Cymdeithasol CCAF, James Young, “Mae’r digwyddiad agoriadol Farsiti Colegau Cymru hwn wedi profi i fod yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn falch iawn o gipio’r teitl, wrth gwrs. Darparodd gyfle anhygoel i dimau chwaraeon o CCAF ac y Gŵyr i gystadlu yn erbyn ei gilydd ac i ddysgwyr a chydweithwyr eraill ddod draw i’w gwylio’n cystadlu. 

Rydym yn edrych ymlaen yn barod at deithio i’r Gŵyr flwyddyn nesaf i geisio dal ein gafael ar ein teitl.”

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CCAF) yn goleg blaenllaw ar gyfer chwaraeon. Yn ogystal â derbyn addysg safon uchel, beth bynnag yw’r cwrs, gall dysgwyr elwa o’r amgylchedd ysbrydoledig i ddatblygu ynddo ac i fwynhau eu maes chwaraeon dewisol. Mae unigolion yn eu cael eu hannog, eu cynorthwyo a’u hyfforddi i gyrraedd eu gallu llawn ar y cae ac oddi ar y cae, boed drwy un o'r academïau sy’n cynyddu mewn nifer neu’n parhau i geisio nod chwaraeon personol.

Dilynwch y ddolen i weld yr oriel lawn o luniau o'r digwyddiad: https://www.flickr.com/photos/71532947@N07/albums/72177720325456369/

Mae yna amser o hyd i ymuno â CCAF y mis Medi hwn. Dysgwch ragor am ein cynnig chwaraeon ar ein gwefan: https://cavc.ac.uk/cy/sportsacademies