Mae dysgwyr a phrentisiaid Coleg Caerdydd a’r Fro wedi dod â 25 o fedalau adref o Wobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni, gan gynnwys saith medal aur, deg arian ac wyth efydd.
Cafodd 23 o gystadleuwyr pellach o CCAF Ganmoliaeth Uchel ac enillodd partner Grŵp CCAF, ACT, bedair medal ychwanegol ac un Canmoliaeth Uchel, gan wneud cyfanswm y dysgwyr a’r prentisiaid gafodd eu cydnabod am eu talent ar draws y Grŵp yn 53.
Bu rhyw 136 o ddysgwyr a phrentisiaid yn cystadlu mewn 36 o wahanol gystadlaethau ar draws ystod o ddisgyblaethau, o Waith Brics i Sgiliau Sero Net, Modurol, TG, Dylunio Graffeg, Ffasiwn a Cherddoriaeth Boblogaidd.
Enillodd dysgwyr CCAF y gwobrau i gyd, yr aur, yr arian a’r efydd, yn y categori Technoleg Dylunio Ffasiwn.
Enillodd Amy Laugharne fedal aur mewn Technoleg Dylunio Ffasiwn. Meddai: “Rydw i wedi fy syfrdanu – rydw i mewn sioc ac rydw i wrth fy modd!”
Daeth ei chyd-ddysgwr Ffasiwn, Ffion Snook, â’r fedal arian adref yn yr un ddisgyblaeth. “Rydw i’n teimlo’n ddiolchgar iawn fy mod i wedi ennill y fedal yma,” meddai Ffion. “Rydw i’n falch iawn ohono’ i fy hun gan fy mod i wedi gweithio’n galed.”
Enillodd Morgan Mates fedal aur gyntaf erioed y Coleg mewn Gwyddoniaeth Fforensig. “Rydw i newydd ennill aur mewn Gwyddoniaeth Fforensig ac rydw i’n teimlo’n falch iawn ohono’ i fy hun ac wedi cael sioc fawr hefyd,” meddai. “Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn felly rydw i’n hapus iawn!”
Cafwyd perfformiad cryf gan ddysgwyr a phrentisiaid CCAF yn y gystadleuaeth Foduro, gan ennill medalau neu ganmoliaeth ym mhob categori y cystadlwyd ynddo.
Enillodd Shane Deakin fedal arian mewn Technoleg Modurol Cerbydau Ysgafn. “Rydw i’n teimlo’n wych – ychydig bach yn nerfus ond mae’n dda!” meddai.
Enillodd Bebe Lamport fedal arian mewn Colur Creadigol. “Rydw i’n teimlo mor dda - doeddwn i ddim yn disgwyl cael arian o gwbl,” meddai. “Hon oedd fy mlwyddyn gyntaf i yn y gystadleuaeth yn gwneud colur felly rydw i’n teimlo’n falch iawn – roeddwn i’n disgwyl cael Canmoliaeth Uchel efallai!”
Enillodd CCAF hefyd fedalau neu ganmoliaeth ym mhob un o'r pedair cystadleuaeth TG, ynghyd â chanmoliaeth am y tro cyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chyfrifyddiaeth.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr ni ar flwyddyn arall o ganlyniadau rhagorol! Mae CCAF yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd cystadlaethau sgiliau a'r rôl maen nhw’n ei chwarae wrth ddatblygu sgiliau cadarn a chreu ffynhonnell o dalent ar gyfer y dyfodol a fydd yn ychwanegu gwerth ar unwaith at unrhyw gyflogwr.
“Gall ennill medalau yn y cam hwn fod yn sbardun i gymryd rhan yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU ac, yn y pen draw hyd yn oed, gystadlu yn Rowndiau Terfynol Rhyngwladol WorldSkills yn Japan y flwyddyn nesaf – ac fe hoffwn i ddiolch hefyd i holl staff CCAF sydd wedi gweithio mor galed i’w cefnogi nhw i gyrraedd y lefel hon.”