Mae dau ddeg saith o’r prentisiaid gorau sy’n gweithio yng Nghymru wedi cael dathlu eu gwaith caled a’u penderfyniad yng Ngwobrau Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro 2025.
Cafodd cyflogwyr ac ymarferyddion sydd wedi mynd yr ail filltir yn eu hymrwymiad i ddysgu seiliedig ar waith eu cydnabod hefyd yn y seremoni, a gynhaliwyd ar safle hyfryd Campws Canol y Ddinas y Coleg a’i llywio gan y cyflwynydd Ross Harries.
Yn ystod yr Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol, mae gwobrau Prentisiaeth CCAF yn cydnabod cyflawniadau prentisiaid ar draws rhwydwaith CCAF o 17 o is-gontractwyr prentisiaeth arbenigol, gan hyfforddi mwy na 2,800 o ddysgwyr seiliedig ar waith ar draws 50 o sectorau diwydiant. Mae rhestr lawn o'r enillwyr isod.
Yr 17 o is-gontractwyr yw: CCAF, Focus On Training, Bosch, pengwin, Safe & Secure Training, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, JGR Group, People Plus Wales, Sgil Cymru, Tydfil Training, KwikFit, JTL Training, NGTA, Remit Training, Skillnet a Coleg QS Training.
Dywedodd Pennaeth CCAF, Sharon James-Evans: “Grŵp CCAF yw’r darparwr mwyaf ar brentisiaethau yng Nghymru. Rydyn ni’n credu’n angerddol yng ngrym prentisiaethau ac mae’r enillwyr yma i gyd yn esiampl anhygoel o hyn – llongyfarchiadau mawr i chi i gyd.”
Eleni roedd dau enillydd Prentis Cyffredinol y Flwyddyn: Lily Phillips a Sam Turato.
Mae Lily, a enillodd y Wobr Peirianneg hefyd, wedi dangos gallu technegol eithriadol, ethig gwaith diwyro ac ymrwymiad llwyr i dwf personol. Gan feistroli cysyniadau cymhleth yn gyflym a'u rhoi ar waith, mae Lily wedi dangos sgiliau arwain wrth fentora prentisiaid newydd er ei bod yn dal i fod yn brentis ei hun. Mae ei meddwl arloesol hefyd wedi arwain at welliannau mewn cynhyrchiant a diogelwch ar lawr y siop.
“Rydw i wedi cael cymaint o gyfleoedd nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod y bydden nhw ar gael i mi,” dywedodd Lily am ei phrentisiaeth. “Rydw i wedi gallu ysbrydoli pobl ifanc ac rydw i wedi cael fy nghydnabod gyda’r wobr yma – rydw i’n falch iawn ohono’ i fy hun ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi fy helpu i gyrraedd fan hyn.”
Enillodd Sam y Wobr Oergelloedd ac Awyru hefyd.
Mae Sam wedi ymrwymo'n llwyr i'w gymhwyster a'i yrfa yn y diwydiant oergelloedd, gan neilltuo cryn dipyn o amser ac ymdrech i ddatblygu ei wybodaeth a'i gasgliad o sgiliau. Yn hynod frwd ac yn llawn cymhelliant, gwnaeth gais am gystadlaethau sgiliau er mwyn herio’i hun a theithiodd yn helaeth i gymryd rhan – gan ennill y Fedal Aur yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn Oldham ym mis Tachwedd 2024. Er gwaethaf ei gyflawniad rhyfeddol, mae’n wylaidd tu hwnt, gan fynegi diolch am gefnogaeth pobl eraill. Yn fyfyriwr, cydweithiwr a chyflogai poblogaidd, mae Sam yn edrych ymlaen at gwblhau ei gymhwyster Lefel 2 yn ystod y misoedd nesaf a pharhau i ddatblygu ei sgiliau a’i arbenigedd yn y diwydiant.
“Cyn i mi ddechrau ar fy mhrentisiaeth doedd gen i ddim syniad am y diwydiant oergelloedd ond nawr rydw i’n gwneud gyrfa ohono ac mae wedi rhoi rhywbeth i mi edrych arno ar gyfer y dyfodol,” meddai Sam. “Rydw i’n falch iawn o fod wedi ennill y wobr yma.”
Enillodd Rheolwr Gyfarwyddwr Focus On Training, Gemma Dark-Trolley, Wobr Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn am ei chefnogaeth ragorol i brentisiaid ac am y gwerth y mae wedi’i ychwanegu at ei sefydliad.
Roedd cyflogwyr sy'n mynd yr ail filltir i annog a chefnogi prentisiaid yn cael eu cydnabod hefyd. Eleni dyfarnwyd gwobrau i Blake Morgan, Caerdav, Cyswllt Cymunedol Dyffryn, Dŵr Cymru a V&C (SW) Ltd.
Meddai Pennaeth CCAF, Sharon James-Evans, wedyn: “Hoffwn longyfarch pob un o’r enillwyr: y prentisiaid gwych sydd wedi gweithio mor galed; y cyflogwyr sy'n buddsoddi yn eu staff, ac yn meithrin ac yn datblygu talent; a'r hyfforddwyr dawnus a gweithgar, yr aseswyr, yr athrawon o bob rhan o CCAF a'n rhwydwaith o is-gontractwyr sydd wedi eich cefnogi chi.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod prentisiaethau’n gweithio – i feithrin talent newydd a phresennol, i amrywio gweithluoedd, i rymuso busnesau i dyfu ac i addasu ac i gefnogi ein cymunedau a’n heconomi. Rhaid i ni ddal ati i hyrwyddo’r effaith maen nhw’n ei chael yn angerddol.”
Categori | Enillydd | Cyflogir gan |
Cyfrifyddiaeth | Laura Walker | Travel Local |
Atgyweirio Cyrff Cerbydau | Belal Al Haka | FMG Repair Services |
Cerbydau Ysgafn Modurol | Alessio Manna | A1 Diagnostics, Caerdydd |
Cerbydau Trwm Modurol | Mihaly Zeke | Watts Truck and Ven Centre |
Gweinyddu Busnes | Daisy Wootton | Deloitte LLP |
Adeiladu | Ffion Davies | CBS Caerffili |
Diwydiannau Creadigol | Sam Passmore | BBC Cymru Wales |
Electrodechnegol | Dakota Quantock | Go Smart Electrical |
Gwasanaeth Argyfwng, Tân ac Achub | Serena Williams | Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru |
Peirianneg | Joe Buckland | Siltbuster |
| Lily Phillips | Tenneco |
Gwasanaethau Ariannol | Nicole Jones | Grŵp Bancio Lloyds |
Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Nicole Phillips | Harlequin Home Care Ltd |
Gwresogi ac Awyru | Bradley Milward | Mitie |
Newyddiaduraeth | Gray Gathergood-Dains | BBC Cymru Wales |
Rheolaeth | Amy Calvert | Sequence |
Plymio | Jayke Davies | AJM Plumbing, Tiling and Bathroom Fitting |
Oergelloedd ac Awyru | Sam Turato | DW Refrigeration Ltd |
Chwaraeon | Ronan Kpakio | Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd |
Rheoli Adnoddau yn Gynaliadwy | Ethan Fletcher | Grŵp Bryn |
Prentis Iau | Summer Tannetta-Young | |
Prentis Uwch | Georgia Spry | Undeb Myfyrwyr Caerdydd |
Sero Net | Simon Kentfield | CBS Caerffili |
Cymraeg | Jack Davies | BBC Cymru Wales |
Model Rôl | Owen Thomas | BP Rolls |
Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith | Gemma Dark-Trolley | Focus On Training |
Cyn-fyfyriwr | Brandon Edwards | Deloitte LLP |
Cyflogwr | Blake Morgan | |
| Caerdav | |
| Cyswllt Cymunedol Dyffryn | |
| Dŵr Cymru | |
| V&C (SW) Ltd | |
Prentis Cyffredinol y Flwyddyn | Lily Phillips | Tenneco |
| Sam Turato | DW Refrigeration Ltd |