Mae dysgwr Esports Coleg Caerdydd a’r Fro, Noah Avoth, wedi ennill Gwobr EA FC25 wrth gystadlu yng Nghwpan Colegau Esports Cymru.
Llwyddodd Noa i amddiffyn ei deitl, ar ôl ennill y wobr y llynedd hefyd. Roedd yn cystadlu yng Nghwpan Colegau Esports Cymru fel rhan o dîm Esports y Coleg, Celtiaid CCAF.
Cyflwynwyd y cwpan iddo gan Brif Swyddog Gweithredol Esports Cymru, John Jackson, yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.
Dywedodd Noah: "Rydw i bob amser yn teimlo'n falch iawn o gynrychioli'r Coleg. Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi ennill y wobr yma, gan amddiffyn fy nheitl o gystadleuaeth y llynedd.
“Diolch i Paul Owen a Jacob Williams am eu holl help ac am roi cyfle i mi gystadlu. Rydw i'n edrych ymlaen at y dyfodol ac yn gobeithio cystadlu eto."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Esports Cymru, John Jackson: "Mae hwn yn gyflawniad anhygoel, nid yn unig ennill y wobr yma, ond i Noah fod wedi amddiffyn ei deitl, gan guro'r holl ysgolion a’r colegau eraill oedd yn cystadlu yng Nghymru. Da iawn Noah!"
I gael gwybod mwy am Esports yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ewch i https://cavc.ac.uk/en/esports