Mae deuddeg dysgwr o Goleg Caerdydd a’r Fro yn barod i gystadlu yn erbyn goreuon y wlad yn Rownd Derfynol WorldSkills UK yr wythnos nesaf.
Bydd y myfyrwyr yn cystadlu yn derbyn enillwyr rhanbarthol cystadlaethau sgiliau o bob cwr o’r DU yn eu disgyblaeth. Yna mae enillwyr Rowndiau Terfynol WorldSkills UK yn cael y cyfle i gynrychioli’r DU yn y ‘Skills Olympics’ - cystadleuaeth ryngwladol WorldSkills 2026 yn Shanghai.
Cystadleuwyr CCAF yn y rownd derfynol yw:
• David Morgan - Cynnal a Chadw Awyrennau
• Owen Thomas - Atgyweirio Cyrff Cerbydau
• Belal al Haka - Atgyweirio Cyrff Cerbydau
• Kyle Davin - Ail-orffen Modurol
• Ben Williams - Ail-orffen Modurol
• Miah Jenkins - Colur Masnachol
• Miah Jenkins - Colur Masnachol
• Mihaly Zeke - Technoleg Cerbydau Trwm
• Joe Davies - Technegydd Cymorth TG
• Samuel Turato - Oeri
• Marnie Gaskell - Gwasanaeth Bwyty
• Travis Huntley - Teilsio Waliau a Lloriau
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James Evans: “Dymuniadau gorau posib i’r 12 o’n dysgwyr a fydd yn cymryd rhan yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK yr wythnos hon. Rydym yn eithriadol o falch ohonoch!
“Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro rydym yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd cystadlaethau sgiliau fel WorldSkills UK a’u rôl yn y broses o ysbrydoli pobl i ddatblygu sgiliau lefel uchel. Mae sgiliau’n allweddol i fusnesau o bob sector a maint, ac i economïau ar draws y byd. Mae sgiliau lefel uchel yn gwneud busnesau yn fwy abl ac effeithlon, gan ddenu cwsmeriaid a chyfrannu at gymunedau ac economïau mwy ffyniannus.
“Dyna pam fod WorldSkills UK mor bwysig. Mae’n dod â’r negeseuon hyn ynghyd ac yn eu hamlygu ar raddfa'r DU gyfan, gan ddangos i gyflogwyr a llywodraethau fod buddsoddi mewn sgiliau yn gyfystyr â buddsoddi yn y dyfodol.”