Dysgwyr Esports Coleg Caerdydd a’r Fro yn cael cyfarfod â thîm Gemau’r Gymanwlad Cymru Esports

13 Mai 2022

Yn ddiweddar, croesawodd Coleg Caerdydd a’r Fro chwaraewyr Esports Cymru ar gyfer diwrnod o hyfforddiant cyfryngau cyn cynnwys Esports fel digwyddiad peilot yng Ngemau’r Gymanwlad yr haf yma.

Rhoddodd y diwrnod gyfle i fyfyrwyr Esports CAVC gwrdd a holi chwaraewyr proffesiynol Esports a’u gweld yn chwarae. Cawsant gyfle hefyd i chwarae yn eu herbyn a rhwydweithio gyda hwy drwy gydol y dydd, gan gael cyngor ac arweiniad.

Mae’r cyrsiau Esports a gynigir gan Goleg Caerdydd a’r Fro yn ymwneud â llawer mwy na dim ond chwarae gemau fideo. Maent yn ymdrin â'r dechnoleg, y maeth a'r seicoleg a'r strategaeth a’r tactegau sylfaenol wrth chwarae'n broffesiynol.

Gan gwmpasu iechyd a lles yn ogystal â menter, gall y dysgwyr ystyried sefydlu a marchnata eu menter Esports eu hunain, gyda nwyddau a marchnata, cynllunio digwyddiadau a'u darlledu - yr holl sgiliau sydd eu hangen ar gyfer marchnad gyfnewidiol sy'n tyfu. Mae'r dysgwyr hefyd yn cystadlu yn set o dwrnameintiau Cymdeithas Esports Prydain.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn 1 Parêd y Gamlas – rhan o Gampws Canol y Ddinas CAVC - yn cynnwys hyfforddiant cyfryngau ar gyfer chwaraewyr Esports Cymru, ynghyd â sesiynau chwarae gemau rhwng y chwaraewyr proffesiynol a’r myfyrwyr, trafodaeth banel a sesiwn holi ac ateb.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Esports Cymru, John Jackson: “Fe hoffwn i ddiolch i CAVC am ddarparu lleoliad perffaith i’r chwaraewyr gwrdd a rhedeg drwy gynlluniau gêm cyn Pencampwriaethau Ewrop a’r Gymanwlad. Eleni mae gennym ni gyfle gwych i ddangos effaith Esports yng Nghymru."

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Roedd yn wych croesawu tîm Esports Cymru i’r Coleg am ddiwrnod o hyfforddiant cyfryngau. Fe roddodd gyfle gwych i’n myfyrwyr Esports ni ryngweithio â’r chwaraewyr proffesiynol y maen nhw eisiau eu hefelychu, a chael arweiniad a chyngor ganddyn nhw – rydyn ni i gyd yn dymuno pob lwc i Esports Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yr haf yma!”