Gweithiwr allweddol gyda’r GIG Samantha yn rhoi hwb i’w sgiliau ar-lein gyda Choleg Caerdydd a’r Fro

25 Meh 2020

Mae gweithiwr gyda’r GIG, Samantha Wileman, wedi bod yn mireinio ei sgiliau ar-lein gyda Choleg Caerdydd a’r Fro yn ystod y cyfyngiadau symud er mwyn ei helpu i wneud cynnydd yn ei gyrfa gyda’r gwasanaeth iechyd.   

Mae Samantha, Uwch Gynorthwy-ydd Theatr yn Ysbyty Llandochau, yn rhan o dîm clos sy’n gweithio i ddiogelu iechyd a gofal pob claf sy’n ymweld â’u theatr ar gyfer triniaethau. “Dim ond hanner y frwydr yw rhoi sicrwydd i bobl a gwneud iddyn nhw ymlacio,” meddai.

Yn ystod argyfwng Covid-19 mae llawer o newid wedi bod yn rôl Samantha ac mae wedi treulio deufis yn gweithio gyda Thîm Ymateb Meddygol Brys i Ddigwyddiadau yr ysbyty gyda chleifion eithriadol wael, gan eu trin i ddechrau cyn eu trosglwyddo i Ysbyty Prifysgol Cymru.                

“Rydw i’n ôl yn y theatr nawr, yn gweithio gyda thrawma dwylo,” meddai Samantha. “Ers y cyfyngiadau symud, mae llawer o anafiadau DIY wedi bod!”

Mae Samantha hefyd eisiau diweddaru ei sgiliau i wneud cynnydd yn y GIG.

“Mae llawer o gyfleoedd i wneud cyrsiau eraill i wella fy ngyrfa,” esbonia. “Fe wnes i fy TGAU amser maith yn ôl – dydi fy ngraddau i ddim rhy ddrwg ond mae’r disgwyliadau’n newid o hyd yn y GIG.”

Yn astudio cwrs Rhifedd gyda CAVC ar-lein a, chyn y cyfyngiadau symud, yn mynd i sesiynau yn Hwb Trelái, roedd Samantha hefyd yn gobeithio dilyn cwrs Cyfathrebu Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru City and Guilds. Fodd bynnag, gan nad oes modd cwblhau hwn ar-lein, awgrymodd ei thiwtoriaid ei bod yn dilyn cwrs Cyfathrebu Agored er mwyn paratoi ar gyfer pan fydd yn gallu cofrestru ar gyfer y cwrs Lefel 2.

“Rydw i wedi cael fy enwebu ar gyfer y radd Nyrsio llwybr hyblyg ac mae diweddaru fy sgiliau’n rhoi gwell cyfle i mi,” meddai Samantha. “Rhaid i mi gwblhau Saesneg Lefel 2 erbyn mis Medi er mwyn cael fy nerbyn ar y cwrs neu fe fydd raid i mi aros am 12 mis.

“Felly rydw i’n gwneud fersiwn Agored i ddal ati gyda fy sgiliau ac i ddod i ddeall dysgu ar-lein gan ei fod yn faes newydd iawn i mi. Fe gefais i wybod amdano drwy fy nhiwtor Mathemateg, Sue Tweedale.

“Mae hi wedi bod o help mawr gan roi llawer o gefnogaeth. Mae’r Darlithydd Cyfathrebu Debbie Rogers wedi bod yn gefnogol iawn hefyd ac rydw i wir yn mwynhau’r cwrs.”

Er bod Samantha’n cyfaddef nad yw wedi arfer dysgu ar-lein, mae wedi bod yn mynd i’r afael â hynny gyda chefnogaeth ei thiwtoriaid.

“Mae’r cwrs o help mawr,” meddai. “Mae ceisio torri hen arferion yn anodd ond mae’r dysgu ar-lein wedi bod yn annisgwyl o bleserus.

“Mae ceisio gweithio yn llawn amser, addysgu fy merch gartref a hefyd gweithio ochr yn ochr ag oriau fy ngŵr wedi gofyn am gryn dipyn o jyglo, ond gyda’r cwrs ar-lein, rydw i wedi llwyddo i ddod o hyd i amser i gwblhau tasgau.”                             

Mae Samantha hefyd wedi mwynhau ei phrofiad o ddysgu gyda Choleg Caerdydd a’r Fro.           

“Mae cefnogaeth y tiwtoriaid wedi bod yn anhygoel,” meddai Samantha. “Fe wnes i fwynhau’r sesiynau Hwb hefyd, gan fy mod i’n hoffi rhyngweithio yn gymdeithasol gyda phobl.”

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o gyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion CAVC i’ch helpu chi i wneud cynnydd yn y gwaith, neu ddim ond mireinio eich sgiliau, gallwch gofrestru ar gyfer Diwrnod Agored Rhithiol y Coleg a gwneud cais ar-lein yma.