Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael ei gydnabod fel un o golegau gorau’r DU am ei waith arloesol gyda chyflogwyr ar draws y Brifddinas-Ranbarth a thu hwnt.
Mae’r Coleg wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau yn y categori Ymgysylltu â Chyflogwyr City & Guilds. Yn cael eu hadnabod yn eang fel ‘Oscars y Colegau’, mae Gwobrau anrhydeddus Beacon yn cydnabod sefydliadau Addysg Bellach sy’n mynd yr ail filltir gyda’u gwasanaeth i ddysgwyr ac i’r gymuned ehangach.
Yn un o’r pump uchaf ymhlith y colegau mwyaf yn y DU, mae Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro yn ddarparwr arweiniol ar brentisiaethau yng Nghymru. Mae ymchwil diweddar gan EMSI wedi canfod bod Grŵp CCAF yn cefnogi un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ac yn cyfrannu hanner biliwn o bunnoedd at economi Caerdydd ac £1.4 biliwn at gymdeithas bob blwyddyn.
Mae CCAF wedi ymrwymo i fod yn ‘bwerdy sgiliau’ rhanbarthol gan ddiwallu anghenion sgiliau presennol ac yn y dyfodol drwy waith partneriaeth gyda chyflogwyr o bob maint a mynd ati i ddefnyddio deallusrwydd marchnad fel sail i ddarpariaeth.
Mae rhan o’r gwaith yma’n cynnwys defnyddio Byrddau Cynghori Cyflogwyr Strategol ar draws sectorau allweddol i sicrhau bod cyrsiau CCAF yn adlewyrchu anghenion sgiliau pob sector. Yn gyffredinol, mae’r Coleg yn gweithio gyda mwy na 2,000 o gyflogwyr ar draws y rhanbarth, o ddarparu prentisiaethau i gynnig rhaglenni hyfforddi pwrpasol i roi sylw i fylchau sgiliau ac i ddiwallu anghenion yn y dyfodol.
Un esiampl o’r ffordd mae CCAF yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr yw’r brentisiaeth arloesol sydd wedi cael ei datblygu gyda Deloitte, cyflogwr allweddol yn y sector gwasanaethau ariannol. Roedd Deloitte eisiau rhoi cyfle yn y maes blaenoriaeth yma i bobl sydd heb ystyried gyrfa mewn gwasanaethau ariannol hyd yn oed a bellach mae 10% o weithlu Deloitte o 1,000 o weithwyr yng Nghaerdydd wedi sicrhau cyflogaeth drwy’r brentisiaeth.
Ymhlith y cwmnïau proffil uchel eraill mae’r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth â hwy mae Aston Martin, BBC Cymru Wales, British Airways, Celsa Steel, Dow, MotoNovo, GoCompare, ITV Wales, Persimmon Homes, Cymdeithas Adeiladu’r Principality a Wales and West Utilities.
Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Mae’n hyfryd cael cydnabyddiaeth gan Wobrau Beacon am ein gwaith ni gyda chyflogwyr.
“Yn CCAF, dydyn ni ddim eisiau bod yn ffatri cymwysterau sy’n cynhyrchu pobl gyda darnau papur cywir ond dim syniad am y byd gwaith. Mae’n well gennym ni fod yn beiriant sgiliau sy’n cynhyrchu pobl ifanc sy’n fedrus ac yn gyflogadwy ac sydd â blaengaredd a thalent entrepreneuraidd i ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.
“Mae’r ganmoliaeth yma gan banel Gwobrau Beacon yn dyst i holl waith caled y staff ar draws y Coleg, a’r miloedd o gyflogwyr bach a mawr rydyn ni’n gweithio â nhw, tuag at sicrhau bod yr hyn rydyn ni’n ei gynnig yn berthnasol i anghenion y marchnadoedd llafur ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ledled y Brifddinas-Ranbarth a thu hwnt.”