Croesawu miloedd o fyfyrwyr i Ffair y Glas CAVC 2019

16 Medi 2019

Mae miloedd o fyfyrwyr newydd wedi cael eu croesawu i’w blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro yn yr Wythnos y Glas fwyaf erioed i gael ei chynnal ar Gampws y Barri a Champws Canol y Ddinas.

Cyflwynwyd y myfyrwyr i'r gwahanol wasanaethau a chefnogaeth sydd gan CAVC i'w cynnig, a chawsant ystod o weithgareddau cyffrous gan gynnwys Spin to Win gyda Capital FM, wal ddringo Boulders, a sesiynau blasu gan sawl campfa. Roedd tîm TEL y coleg wedi trefnu gemau Mario Kart a reid rhith-wirionedd a chafwyd arddangosiadau gan y myfyrwyr Gwallt a Harddwch. Yn y Barri bu tîm Lletygarwch ac Arlwyo'r Coleg yn gweini siocled poeth, ysgytlaeth a hufen iâ cartref i'r deiliaid stondin a'r myfyrwyr.

Rhoddodd stondinau megis Pride Cymru gyngor ac arweiniad i'r myfyrwyr ac roedd rhai eraill megis Telefonica yn cynnig talebau a chynigion arbennig. Roedd yna gyngor am yrfaoedd ac iechyd hefyd ar gael.

Dywedodd Kay Martin, Pennaeth CAVC: “Gall yr wythnos gyntaf mewn amgylchedd dysgu newydd fod ychydig yn frawychus felly rydym eisiau sicrhau bod ein myfyrwyr newydd yn cael croeso cynnes a chyfeillgar. Mae'r gweithgareddau hwyliog a'r nwyddau am ddim yn helpu hefyd."