Blwyddyn arall o lwyddiant Safon A yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn torri’r record

15 Awst 2019

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn dathlu blwyddyn arall lwyddiannus sy’n curo’r record, gyda mwy o fyfyrwyr nag erioed yn llwyddo i gael eu cymwysterau AS a Safon A.

Cynyddodd nifer y myfyrwyr a basiodd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro 2%, tra cododd nifer y rhai a lwyddodd i ennill graddau A i C 4%. Ar Ddiwrnod Canlyniadau Safon A Coleg Caerdydd a’r Fro, dathlodd 597 o ddysgwyr a lwyddodd i gael A* i C - 146 ohonynt a chanddynt raddau A ac A*.

Roedd mwy o fyfyrwyr wedi sefyll arholiadau Safon A ac AS nag erioed o’r blaen ac mae’r canlyniadau yn arwydd o’i ymrwymiad i ddarparu safon dda o addysg Lefel A.

Pasiodd 100% o fyfyrwyr y pynciau Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth, Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg, Ffilm, Ffrangeg, Astudiaethau Crefyddol, Daearyddiaeth, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Cemeg, Mathemateg Bellach a Ffiseg. Llwyddodd rhagor na 75% o ddysgwyr Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth, Llenyddiaeth Saesneg a’r Iaith Saesneg, Ffilm, Hanes ac Economeg i gael graddau A* i C, a llwyddodd 100% o fyfyrwyr oedd yn astudio Ffrangeg i gael A* i C.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Kay Martin: “Mae’n bleser bob amser i ddathlu llwyddiant ein myfyrwyr ar Ddiwrnod Canlyniadau Safon A wrth i’r bobl ifanc yma ddechrau ar y bennod nesaf yn eu bywydau.

“Bob blwyddyn, gwelwn fwy a mwy o fyfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro yn llwyddo i gael eu cymwysterau Safon A ac AS. Rwyf wrth fy modd fod holl waith caled cymaint o bobl wedi talu ar ei ganfed a’u bod bellach yn gallu gwneud cynnydd i faes addysg prifysgol neu gyflogaeth.”

Un enghraifft yw Reduan Soroar, a lwyddodd i gael A* mewn Bioleg, Seicoleg a Mathemateg.

Dywedodd Reduan “Dwi’n teimlo ar ben fy nigon! Wnes i ddim meddwl bydden i’n gwneud mor dda. Ro’n i am wella ar y llynedd, felly wnes i ddechrau adolygu’n gynnar. Dwi wedi poeni am hyn dros yr haf achos o’n i’n meddwl bydden i ond yn cael cwpwl o Bs neu rywbeth!

“Dwi’n cymryd blwyddyn i ffwrdd flwyddyn nesa ond dwi’n meddwl gwna i astudio Mathemateg wedi hynny. Wnes i wir fwynhau fy amser yn y Coleg - mae fy athrawon i gyd wedi bod yn grêt.”

Llwyddodd Lauren White i gael A* yn yr Iaith Saesneg, A mewn Seicoleg ac A mewn Cymdeithaseg. Bydd hi’n mynd i King’s College, Llundain i astudio Seicoleg

Dywedodd hi “Ydi e’n wir? Alla i ddim credu’r peth, ond dwi’n hapus, hapus iawn achos dwi wedi bod eisiau astudio Seicoleg erioed, a Kings oedd fy newis cyntaf. Mae’n grêt a dwi wedi mwynhau fy amser yn y Coleg.”

Llwyddodd Emma Hunsdon i gael A* mewn Seicoleg, A mewn Busnes ac A ym Magloriaeth Cymru.

Dywedodd Emma “Dwi’n teimlo’n anhygoel – dyma sioc fawr. Dwi wedi cael fy nerbyn i Brifysgol Caerfaddon i astudio Rheolaeth Busnes. Dyna oedd fy newis cyntaf”.

“Do’n i ddim wir wedi meddwl am brifysgol, ond wnes i newid fy meddwl ar ôl dod i’r Coleg a dwi wir yn edrych ‘mlaen at y cyfle nawr.”

Dywedodd Aled Williams: “Ces i dair A a B a dwi’n mynd i Firmingham i astudio Ffiseg. Birmingham oedd fy newis cyntaf felly dwi’n reit gynhyrfus ond dwi’n cymryd blwyddyn i ffwrdd yn gyntaf, er mwyn edrych ar syniadau am fusnes achos mae diddordeb gen i mewn technoleg busnes.”



A hithau wedi cael A* mewn Astudiaethau’r Cyfryngau, A mewn Ffotograffiaeth a B ym Magloriaeth Cymru, mae Poppy Hunt wedi sicrhau lle i astudio Ffotograffiaeth yn yr University of Arts, Llundain.

Dywedodd Poppy “Dwi mor hapus gyda fy ngraddau achos dwi’n berffeithydd a dyma’r graddau ro’n i eu hangen. Ro’n i wedi meddwl bod yn newyddiadurwr ond yna, wnes i TGAU mewn Celf a dyna sut wnes i fynd i faes ffotograffiaeth.

“Dwi mor hapus! Ond bydda i’n colli’r Coleg achos dwi wir wedi mwynhau fy amser yma.”

Dywedodd Cari Clark: “Fe wnes i astudio Ffotograffiaeth, y Cyfyngau a Saesneg a chael A, A, a B. Dwi’n mynd i astudio Newyddiaduraeth Ffasiwn yn Epsom University for the Creative Arts.

“Fe ddes i i’r Coleg achos ro’n i’n hoffi’r rhyddid wnes i deimlo pan ddes i i weld y lle. Cafodd y Coleg ei ddisgrifio fel trosglwyddiad da, cam rhwng ysgol a choleg ac roedd hynny mor wir yn fy achos i. Dwi wedi hoffi’r annibyniaeth ges i, ac mae e wedi rhoi hwb i fi weithio’n galed a llwyddo.”

Llwyddodd Adam Heit i gael B mewn Busnes, C mewn Gwleidyddiaeth a D ym Magloriaeth Cymru a bydd e’n mynd i New University, Swydd Buckingham i hyfforddi i fod yn beilot.

Eglurodd Adam: “Wnes i ddechrau hyfforddiant hedfan pan o’n i'n 14 oed ac fe wnes i hedfan ar ben fy hun yn 16 oed. Yna, ces i fy nhrwydded beilot breifat yn 17 oed. Bydda i’n hyfforddi hedfan masnachol ar gyfer cludiant yn yr awyr . Yr adeg yma'r flwyddyn nesa bydda i’n hedfan awyren dwy injan ac yn gwireddu breuddwyd fy mywyd.

“Dwi wedi bod wrth fy modd yn y Coleg; mae’n llawer gwell nag ysgol a bydd fy Lefelau A wir yn helpu - bydd y cwrs Busnes yn amhrisiadwy o ran fy ngyrfa.”

Dywedodd Yusuf Ibrahim, Pennaeth Addysg Gyffredinol Coleg Caerdydd a’r Fro: “Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro mae gennym ymrwymiad gwirioneddol i wella safon addysg ein myfyrwyr yn barhaus. Mae’r canlyniadau Safon A yma’n sylfaen gadarn i ni adeiladu arni. Mae gennym sawl maes pwnc lle llwyddodd rhagor na thri chwarter y dysgwyr i gael graddau A* i C a chawsom fwy nag erioed o ddysgwyr.”