Mae gwasanaeth un stop newydd sy’n darparu cymorth i ffoaduriaid ledled Cymru wedi’i lansio heddiw [Dydd Iau 20 Mehefin] fel rhan o Wythnos y Ffoaduriaid.
Cafodd y prosiect AilGychwyn: Integreiddio Ffoaduriaid ei gyflwyno yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt a’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Bydd y gwasanaethau galw heibio penodol ar gael o ganolfannau ym mhedair ardal dosbarthu ffoaduriaid y Swyddfa Gartref yng Nghymru – sef yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam.
Y canolfannau hyn, a fydd yn cael eu galw’n REACH+, fydd y canolfannau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) newydd. Byddant hefyd yn fannau canolog i ffoaduriaid fynd iddynt i gael cyngor a chymorth ehangach drwy’r prosiect AilGychwyn.
Bydd y canolfannau’n cynnig cymorth i fwy na 520 o bobl, er mwyn eu helpu i integreiddio i fywyd yng Nghymru; sicrhau bod hyfforddiant iaith ar gael iddynt; rhoi cymorth iddynt gael gwaith a gwella eu gwybodaeth am yr ardal yn lleol a’r diwylliant.
Bydd mentor yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â phawb er mwyn sicrhau eu bod yn gallu defnyddio gwasanaethau’r prosiect.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt: “Mae Wythnos y Ffoaduriaid yn gyfle pwerus i ddangos bod Cymru’n genedl noddfa i bobl sy’n chwilio am le diogel. Bydd prosiect AilGychwyn yn cyflwyno rhaglen uchelgeisiol ond integredig i ffoaduriaid sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddynt.”
“Mae’n hynod bwysig ein bod yn helpu pobl i gael gwaith a manteisio ar gyfleoedd addysg – bydd hyn nid yn unig o fudd i bobl a’u teuluoedd, ond i’n cymdeithas a’n heconomi ehangach.”
Coleg Caerdydd a’r Fro fydd yn arwain y gwaith o gyflwyno prosiect AilGychwyn, yn dilyn llwyddiant eu rhaglen gyntaf o ddarpariaeth sef REACH a gafodd ei lansio yn 2017.
Dywedodd MaryAnn Hale, pennaeth REACH+ Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro gael arwain y prosiect gwerthfawr hwn.
“Bu’r effaith yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy REACH yn amlwg gyda dileu’r rhestri aros a’r ceisiadau deublyg ar gyfer ESOL. Mae’r dysgwyr wedi elwa’n fawr ar gael canolfan asesu ganolog a chronfeydd data ar gyfer darpariaeth ESOL ac mae hefyd wedi hybu cyfleoedd o ran cynnydd a llwybrau datblygu.
“Mae’n fraint cael cyflwyno’r gwasanaeth hwn ar draws Cymru a chynnig cymorth arbenigol mwy penodol i ffoaduriaid gyda’r cymorth sydd wedi’i dargedu i helpu’r broses o’u hintegreiddio yn rhan o’n cymdeithas.”
Mae’r lansio hefyd yn cyd-redeg ag Wythnos Addysg Oedolion.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Ni ddylai gallu rhywun i fanteisio ar addysg gael ei benderfynu gan eu hamgylchiadau personol. Addysg yw un o’r ffactorau mwyaf sy’n symbylu integreiddio cymdeithasol a symudedd ac mae chwalu’r rhwystrau i bobl fanteisio ar addysg bellach neu addysg uwch yn un o fy mhrif flaenoriaethau.
“Bydd y canolfannau hyn sy’n rhoi cyfle i bobl alw heibio yn hwyluso mynediad i’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael – o hyfforddiant ieithyddol i astudio cwrs prifysgol. Mae hyn yn hanfodol wrth ymgartrefu mewn gwlad newydd a’i gwneud yn gartref i chi.”
Mae’r prosiect sydd werth £2m yn derbyn cyllid o £1.5m gan Gronfa Lloches, Mudo ac Integreiddio Awdurdod Cyfrifol y Deyrnas Unedig a hefyd £500,000 o arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru.