Cogyddion Gorau Cymru’n Mentora’r Genhedlaeth Nesaf o Dalent yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro a Choleg Gwent

31 Hyd 2019

Ddydd Llun (21) Medi, bu pump o gogyddion mwyaf medrus Cymru’n helpu pobl ifanc o Goleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Gwent i weini pryd bwyd hynod flasus i 80 o gyflogwyr eithriadol graff y diwydiant lletygarwch yn un o golegau arlwyo mwyaf blaenllaw Cymru.

Am y tro cyntaf yn ei hanes, gwahoddodd Coleg Caerdydd a’r Fro fyfyrwyr o Goleg Gwent i’w geginau i goginio gyda’u cyfoedion a’r cogyddion arbenigol oedd yn ymweld. Codwyd bron i £2000 i gefnogi myfyrwyr lletygarwch ac arlwyo ledled y wlad gyda chostau teithio i gael profiad gwaith ac offer hanfodol, ac i helpu colegau i gyllido tripiau cyflogwyr, ymweliadau a thripiau ysgolion sy’n bwydo i ddigwyddiadau ‘Dyddiau Blasu’ y coleg.

Agorodd Coleg Caerdydd a’r Fro ei geginau addysgu a Bwyty’r Dosbarth i hufen y byd coginio ddydd Llun i gynnal cinio codi arian ar gyfer Sefydiad Addysgol CIC Fforwm y Cogyddion – sefydliad wedi’i ymgorffori gan Catherine Farinha ac Alexandra Duncan ym mis Hydref 2016 i godi arian hanfodol i helpu pobl ifanc ddifreintiedig i ddod yn rhan o’r busnes lletygarwch, drwy eu cysylltu â chyflogwyr a darparu offer a chefnogaeth hanfodol.

Mae Fforwm y Cogyddion yn pontio’r bwlch rhwng diwydiant ac addysg a thrwy gynnal Cinio Cogyddion Fforwm y Cogyddion, sy’n cael ei gynnal am y seithfed flwyddyn yn olynol, mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn tanlinellu ei ymrwymiad i’r fenter sy’n ysbrydoli cogyddion ifanc, yn cyfoethogi eu dysgu ac yn meithrin cysylltiadau cryf â chyflogwyr blaenllaw yn y diwydiant.
Yn mentora myfyrwyr y coleg ar y diwrnod roedd dau gogydd seren Michelin, Hywel Jones (Lucknam Park) a James Sommerin (Restaurant James Sommerin), Andrew Robertson (Marriott Caerdydd), Ryan Mitchell (Chapel 1877) a Matt Waldron (The Stackpole Inn).

Roedd y fwydlen yn rhagorol a chyflwynodd y cogyddion gwadd bob un o’r cyrsiau:

Amuse Bouche
Andrew Robertson - Marriott Caerdydd
Cawl madarch gwyllt
~
Cwrs Cyntaf
Hywel Jones - Lucknam Park
Tarten betys a ricotta Gwlad yr Haf gyda thryffl Sir Wilt

~
Cwrs Pysgod
Ryan Mitchell - Chapel 1877
Lwyn penfras cyrri, biryani cnau coco sbeislyd, corn melys rhost,
salsa mango, ewyn iogwrt a chnau almon wedi’u tostio
~
Prif Gwrs
James Sommerin - Restaurant James Sommerin
Cig Oen PGI Douglas Willis, cnau coco, gwrd cnau menyn, cwmin
~
Pwdin
Matt Waldron - The Stackpole Inn
Mousse siocled cynnes, pysgnau a halen môr Sir Benfro

Hefyd gwnaeth y myfyrwyr blaen tŷ waith rhagorol yn gosod y byrddau a’r gwin ac yn gweini’r cinio a’r coffi, o dan arweiniad arbenigol y darlithydd blaen tŷ, Richard Littleton.
Roedd y fwydlen yn eithriadol flasus gyda’r cogyddion i gyd yn dangos eu hoff brydau i’w cydweithwyr proffesiynol yn ogystal â’r myfyrwyr.

Gweiniwyd cava Codorníu Anna fel diod croesawu wrth i’r gwesteion rwydweithio a siarad â phrif gyflenwyr mewn sioe fasnach fechan. Hefyd noddodd Cordoníu y gwinoedd a weiniwyd gyda’r cinio; Rioja Viura-Malvasia Gwyn 2018 a Vina Pomal Rioja Reserva Coch 2014 – yn cyd-fynd yn berffaith â’r prydau rhagorol a weiniwyd gan y cogyddion gwadd.
Cafwyd araith groeso gan Eric Couturier, y Dirprwy Bennaeth Arlwyo, a Sylfaenydd Fforwm y Cogyddion, Catherine Farinha. Siaradodd Eric am bwysigrwydd y Coleg a chyflogwyr lleol yn cydweithio i gefnogi’r sector allweddol yma a diolchodd i’r gwesteion am ddod i Ginio’r Cogyddion.

Dywedodd Eric “Mae’n wych croesawu cymaint o gyflogwyr lleol a chogyddion enwog yma i’r coleg heddiw. Mae digwyddiadau a phrofiadau ysbrydoledig fel cinio’r cogyddion heddiw gyda Fforwm y Cogyddion yn rhan allweddol o’n ffocws ni ar brentisiaethau a gyrfaoedd yma yn y coleg.

“Mae cyflogadwyedd, cyswllt â’r diwydiant a bod yn barod am waith yn elfen hanfodol sy’n mynd law yn llaw ag astudiaethau traddodiadol yn y dosbarth yma yn ein Coleg ni, ac yng Ngholeg Gwent. Mae cydweithio â phartneriaid yn y diwydiant sy’n cynnig lleoliadau gwaith diguro gyda’u ffocws ar yrfa’n flaenoriaeth barhaus i ni – ac yn rhywbeth rydyn ni’n falch o’i gynnig i’n myfyrwyr.

“Mae’n gyfle gwych i’r myfyrwyr gael gweithio ochr yn ochr â rhai o gogyddion uchaf eu parch y wlad a bydd yn siŵr o’u hysbrydoli nhw i fod y genhedlaeth nesaf o gogyddion creadigol a gweithwyr lletygarwch proffesiynol.”

Croesawodd y cogydd seren Michelin Hywel Jones o Lucknam Park y gwesteion i’r digwyddiad a siaradodd am bwysigrwydd cogyddion yn y diwydiant yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o gogyddion.

Dywedodd Hywel: “Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cefnogi digwyddiadau fel hyn yn ein colegau ni i fentora ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Mae llawer iawn o fwrlwm yma heddiw ac mae myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Gwent wedi gwneud yn rhagorol. Rydw i wir yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r coleg a Fforwm y Cogyddion fel rydyn ni wedi’i wneud am y chwe blynedd ddiwethaf.”

Noddwyd holl gynhwysion y cinio yn garedig iawn gan Koppert Cress, Oliver Kay, Douglas Willis, E.Ashton Fishmongers, a Santa Maria. Roedd y nawdd hanfodol hwn yn gostwng costau’r bwyd ac yn sicrhau bod modd codi cymaint o arian â phosib ar y diwrnod, £2000 y tro yma, sy’n nodedig tu hwnt.

Elwodd y digwyddiad ymhellach o ocsiwn dawel ar y diwrnod, gan gynyddu’r cyfanswm eto. Cyfrannwyd lotiau ar gyfer yr ocsiwn yn garedig iawn – Cinio, Gwely a Brecwast i ddau yng Ngwesty’r Marriott yn Abertawe, Gwesty’r Marriott yng Nghaerdydd a The Exchange Hotel, noson gyda chogydd preifat i bedwar gyda Matt Waldron, a Thaith a Thocynnau Ras i bedwar gan Stabl Ceffylau Rasio David Pipe.

Hefyd cynhaliwyd Raffl Fawr ar y diwrnod gyda’r gwobrau wedi’u cyfrannu’n hael gan Giovannis (Caerdydd), y Cogydd Martyn Watkins (Gwesty Dewi Sant), Cava Codorniu Anna, Chapel 1877, Etc Restaurant a Restaurant James Sommerin. Fe wnaeth y cinio a Sefydliad Addysg Fforwm y Cogyddion elwa’n fawr o’r gefnogaeth hael yma.
Gyda’i gilydd aeth y cogyddion a’r myfyrwyr ati i greu a gweini pryd bwyd pedwar cwrs i ryw wyth deg o bobl broffesiynol o’r diwydiant arlwyo a oedd yno i gyd i gysylltu â’r genhedlaeth nesaf o dalent a rhwydweithio gyda’u cyfoedion a’u cyflenwyr hefyd.

Dywedodd Gavin George, Cogydd Ddarlithydd yng Ngholeg Gwent: “Mae heddiw wedi bod yn brofiad anhygoel i’n myfyrwyr ni. Maen nhw wrth eu bodd yn gweithio gyda gwahanol gogyddion a’u cyfoedion yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro a dysgu technegau coginio newydd. Roedd y bwyd yn ardderchog ac roedd yn gyfle gwych i ddangos proffesiynoldeb a sgiliau ein myfyrwyr ni. Fe hoffwn i ddiolch i Fforwm y Cogyddion am wneud heddiw yn llwyddiant mawr ac am ysbrydoli ein myfyrwyr ni.”

Ychwanegodd Catherine Farinha, Sylfaenydd Fforwm y Cogyddion: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag Eric a Choleg Caerdydd a’r Fro ers chwe blynedd nawr. Mae’n grêt cael dau Goleg o Gymru a phum cogydd o Gymru yma heddiw gyda’r nod cyffredin o gyfoethogi dysgu’r myfyrwyr ar draws Coleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Gwent. Mae’n wych cael dychwelyd i’r Coleg am y trydydd tro yn olynol i gynnal cinio gyda chriw arall o fyfyrwyr a’r genhedlaeth nesaf o gogyddion llewyrchus.

"Fe wnaeth y cogyddion a’r myfyrwyr waith gwych heddiw, wynebu her y dasg ac mae mor bwysig ein bod ni’n meithrin ac yn cefnogi’r cenedlaethau nesaf o weithwyr lletygarwch proffesiynol. Mae’n bwysig eu bod nhw’n cael cyfle i weithio gyda diwydiant ar yr ochr ymarferol, yn ogystal â’r gwaith theori. I’r myfyrwyr gymerodd ran yn y digwyddiad heddiw, roedd yn gyfle gwych i adeiladu ar bartneriaethau a rhwydweithiau pwysig yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.”