Myfyrwyr Academi Pêl Rwyd Coleg Caerdydd a’r Fro wedi’u dewis ar gyfer yr uwch-gynghrair a Chymru

31 Hyd 2019

Mae Academi Pêl Rwyd Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael cychwyn gwych i’w thrydedd flwyddyn gyda chwaraewyr yn cael eu dewis ar gyfer Cymru, Sir Caerdydd a’r Fro ac ar gyfer tîm yn yr Uwch-gynghrair, y Dreigiau Celtaidd.

Mae saith o’r myfyrwyr wedi cael eu dewis ar gyfer carfannau D17 a D19 y Dreigiau Celtaidd ac mae dau wedi cael eu dewis ar gyfer tîm Caerdydd a’r Fro. Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, y Dreigiau Celtaidd yw’r unig dîm o Gymru sy’n rhan o’r Uwch-gynghrair Bêl Rwyd, sy’n cynnwys y deg tîm pêl rwyd gorau yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Mae Amy Bradbury, Seren Evans, Charlotte Lewis, Jessica Richards-Clode ac Elkie Warlow wedi cael eu dewis ar gyfer carfan D19 y Dreigiau Celtaidd ac mae Iola-Belle Lake ac Ella Forsyth wedi cael eu dewis ar gyfer y garfan D17.

Mae Amy Bradbury a Celyn Rose wedi cael eu dewis ar gyfer tîm Sir Caerdydd a’r Fro.

Mae Iola-Belle Lake, myfyrwraig Lefel A 16 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi cael ei dewis ar gyfer carfan hir D17 Pêl Rwyd Cymru.

“Mae wir yn gyffrous cael fy newis,” dywedodd Iola. “Rydw i’n falch iawn o allu dweud ’mod i’n cynrychioli fy ngwlad.

“Rydw i wedi mwynhau pêl rwyd er pan oeddwn i’n ifanc iawn – roedd Mam wastad yn chwarae pêl rwyd.”

Mae Academi Pêl Rwyd y Coleg yn rhan o amrywiaeth gynyddol CCAF o Academïau Chwaraeon. Pwrpas yr academïau yw darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o’r safon uchaf gyda phortffolio’r Coleg o gyrsiau, sy’n prysur ehangu. Gall y chwaraewyr astudio Lefel A neu gyrsiau galwedigaethol tra maent yn hyfforddi i fod yn sêr pêl rwyd y dyfodol.

Mae’r Academi, sy’n ymarfer ac yn chwarae ei gemau cartref yn Nhŷ Chwaraeon Dinas Caerdydd, yn cael ei hyfforddi gan Kyra Jones, a gynrychiolodd Gymru yng Nghwpan Pêl Rwyd y Byd ac yng Ngemau’r Gymanwlad.

“Rydw i’n meddwl bod yr Academi Pêl Rwyd yn dda iawn,”
dywedodd Iola. “Rydw i wedi gwneud ffrindiau ac wedi datblygu fy hyder a fy sgiliau pêl rwyd – mae wir yn grêt cael Kyra oherwydd mae hi mor gefnogol ac mae ganddi lawer o brofiad.

“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gyrfa mewn pêl rwyd ac rydw i’n meddwl y bydd fy mhrofiad i yn yr Academi o help gyda hynny.”

Mae chwaraewraig arall yn yr Academi, Erin Corcoran, myfyrwraig Chwaraeon 17 oed o Gaerdydd, wedi cynrycholi Cymru a Phrydain Fawr mewn ffensio.

“Mae ffensio’n llawer iawn o hwyl ac yn gyffrous,”
dywedodd. “Rydw i wedi bod yn ei wneud ers saith mlynedd ac rydw i wir yn ei hoffi.

“Rydw i’n hoff iawn o’r Academi – mae’n gymuned braf; mae pawb mor neis a chefnogol. Bydd y sgiliau rydw i’n eu dysgu o help mawr i mi yn y tymor hir.”

Dywedodd Kyra Jones, Pennaeth Pêl Rwyd CCAF: “Mae bod yn rhan o Academi Pêl Rwyd Coleg Caerdydd a’r Fro yn gyfle gwych i unrhyw athletwr ifanc sydd eisiau gwella ei sgiliau yn unigol ac fel tîm. Mae cael lefel y dalent rydyn ni wedi’i gweld eisoes eleni yn gyffrous ac rydw i’n gwybod y byddwn ni’n parhau i ehangu.”