Coleg Caerdydd a’r Fro yn arwain y ffordd gyda llwyddiannau TG yn WordSkills y DU

21 Meh 2018

Yn ddiweddar cynhaliodd Coleg Caerdydd a’r Fro rowndiau rhagbrofol TG WorldSkills y DU. Llwyddodd ein myfyrwyr i ennill chwe medal – bydd dau o’r enillwyr yn mynd ymlaen i Birmingham ar gyfer rowndiau terfynol WorldSkills y DU ym mis Tachwedd.

Coleg Caerdydd a’r Fro oedd yr unig goleg Cymraeg i gofrestru myfyrwyr ar gyfer y gystadleuaeth Seiberddiogelwch. Enillodd Mateusz Kolacki fedal aur tra enillodd Kyle Woodward y fedal arian.

Enillodd Morgan Whithear fedal aur a Tomek fedal arian, ill dau o Gaerdydd yn y gystadleuaeth Technegydd TG. Enillodd Melvin Saji fedal aur yn y gystadleuaeth Gweinyddwr Systemau Rhwydweithio tra enillodd Fatoumata Makalo fedal efydd yn y gystadleuaeth Datrysiadau Meddalwedd i Fusnesau.

Bydd Mateusz Kolacki a Kyle Woodward yn mynd ymlaen i rowndiau terfynol WorldSkills y DU ym mis Tachwedd yn dilyn eu llwyddiant yn rowndiau terfynol Seiberddiogelwch.

“Roedd y gystadleuaeth wedi ei threfnu’n dda – roeddwn i’n hoff o’r syniad Cipio’r Faner lle’r oedd rhaid i ni hacio i mewn i systemau gwahanol a chwilio am docynnau,”
meddai Mateusz. “Llai na mis oedd gennyf i baratoi ac roeddwn yn wynebu cystadleuydd profiadol, ond rwy’n falch mai fi oedd yr enillydd cyntaf i Goleg Caerdydd a’r Fro ac rwy’n edrych ymlaen at rowndiau terfynol y DU.”

Ychwanegodd Kyle: “Eleni oedd y tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, ac roedd wedi ei chynllunio a’i rhedeg yn dda. Roedd y system cipio pwyntiau yn ddiddorol a difyr.”

“Roedd rhaid i ni gymryd rhan mewn hyfforddiant dwys i ymdrin â chymaint ag oedd yn bosibl o fewn yr amser prin oedd gennym. Yn y diwedd, cefais fy synnu ar yr ochr orau pan enillais fedal arian yn y gystadleuaeth ac rwy’n edrych ymlaen at herio fy hun ymhellach yn rowndiau terfynol y DU ym mis Tachwedd.”

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau a da iawn i Fatoumata, Kyle, Mateusz, Melvin, Morgan a Tomek, sydd wedi gwneud gwaith gwych yn rowndiau rhagbrofol TG WorldSkills y DU. Mae’r ffaith bod bob un ohonynt wedi ennill medal – a dau aur – yn llwyddiant ysgubol ac yn dangos bod eu gwaith cael a’u hymrwymiad wedi talu ar ei ganfed.

“Mae staff yn yr adran TG a Busnes yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi gweithio’n ddiflino i hyfforddi eu cystadleuwyr, gan eu galluogi i gystadlu i safon mor uchel. Mae’r casgliad hwn o fedalau yn dyst i hynny.”