Bob mis Medi rydym yn croesawu miloedd o fyfyrwyr drwy'r drysau yng nghampws Caerdydd a champws Y Barri ar gyfer Ffair y Glas flynyddol. Yn anffodus, oherwydd y cyfyngiadau presennol yn ystod argyfwng COVID-19, ni fydd yn bosib cynnal y digwyddiad sylweddol hwn yn ôl yr arfer eleni, felly rydym yn ei roi ar-lein!
Mae Ffair Rithwir 24/7 Glasfyfyrwyr CAVC yn cynnig mynediad 24 awr i chi at wybodaeth, gweithgareddau a chynigion drwy'r porthol myfyrwyr.
Bydd sefydliadau yn cymryd rhan mewn digwyddiadau byw ar-lein drwy gydol mis Medi, ac yn dod â samplau a gwybodaeth i chi ar y campws drwy gydol y mis. Edrychwch yn rheolaidd am weithgareddau a digwyddiadau newydd y gallwch chi gymryd rhan ynddynt, ac i gael gwybod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli, cymdeithasau a gweithgareddau y gallwch chi gymryd rhan ynddynt yn CAVC!
Bydd pob sefydliad, grŵp neu wasanaeth sy'n cymryd rhan yn cael ei safle penodol ei hun ar MY.CAVC.AC.UK
Cysylltwch drwy anfon e-bost atom yn nodi a fyddech chi'n hoffi cymryd rhan yn Ffair y Glas Rithwir 24/7 @CAVC, a rhannu syniadau newydd am beth allwch ei gynnig yn nigwyddiad eleni.
06.09.2021 - 01.10.2021