Dydd Mawrth 15fed Rhagfyr, 7pm
Gwobrau Blynyddol Coleg Caerdydd a'r Fro yw uchafbwynt ein calendr digwyddiadau, lle rydym yn dathlu ac yn cydnabod llwyddiannau ein myfyrwyr a'n partneriaid busnes o'r flwyddyn flaenorol.
Er na allwn wahodd ein gwesteion i fynychu'n bersonol eleni, rydym yn falch iawn o wahodd ein staff, ein myfyrwyr, ein partneriaid busnes a #CymunedCAVC i ddigwyddiad arbennig ar gyfer y Gwobrau Blynyddol eleni, yn cael eu ffrydio i chi o gyfforddusrwydd eich cartref eich hun.
Bydd y Gwobrau'n cael eu cynnal gan Gyn-fyfyrwyr CAVC a Chyflwynydd medrus gyda'r BBC, Jason Mohammad, a byddant yn cynnwys ymddangosiadau gan ein tîm Gweithredol a straeon gan ein myfyrwyr ysbrydoledig.
Bydd rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi diwnio mewn i'r digwyddiad yn cael ei rhannu'n fuan, felly cadwch lygad am wahoddiad yn eich bocs negeseuon.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y digwyddiad, cysylltwch â thîm Digwyddiadau CAVC.