Os ydych chi’n awyddus i ddilyn gyrfa gyffrous yn y diwydiant theatr, mae ein cwrs yn ddechrau da! Yn cael ei ddysgu ar ein Campws Canol Dinas, mae’r cwrs hwn yn cynnig siawns i’n dysgwyr ni i astudio ar gyfer cymhwyster Celfyddydau Perfformio a adnabyddir yn genedlaethol, cwrs a fydd yn datblygu llawer o’r sgiliau sy’n ofynnol i berfformio ym myd y theatr a’r teledu. Yn rhan o’r rhaglen, bydd yr holl ddisgyblion yn astudio Sgiliau Allweddol ac yn cael eu cofrestru ar gyfer achrediad. Mae Sgiliau Allweddol yn hynod bwysig wrth ddatblygu sgiliau y gellir eu trosglwyddo i fywyd yn gyffredinol, ac mae’r pwyntiau sy’n cael eu hennill yn yr achrediad yn cael eu hadnabod gan Sefydliadau Addysg Uwch.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio ystod eang o unedau a sgiliau gan gynnwys:
Unwaith y byddwch wedi ennill y cymhwyster hwn, gallwch fynd gam ymhellach trwy astudio am flwyddyn arall er mwyn cael Diploma Estynedig. Mae’r cwrs yn cyfateb i 3 Lefel A ac yn gallu darparu digon o bwyntiau UCAS i fynd i’r Brifysgol.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd llwyddo neu uwch. Bydd disgwyl i fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio fynychu clyweliad.
Cyfleusterau ardderchog yn cynnwys theatr a stiwdio ddrama sydd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol. Cysylltiadau cryf â sefydliadau celfyddydau perfformio.
Bydd asesiadau athrawon yn cynnwys gwaith ymarferol, ymarfer, gweithdai theatr, cydweithio’n greadigol, perfformio.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dewisais astudio’r cwrs hwn gan fy mod yn teimlo fy mod eisiau gwella fy sgiliau actio a dawnsio ac yn y pen draw astudio Dawns ar lefel gradd yn y brifysgol. Rwyf wedi mwynhau bod ar y campws a dod yn ffrindiau gyda phobl o’r un anian gyda’r un diddordebau â mi fy hun. Mae’r cyfleusterau yma yn wych, yn arbennig y theatr – mae safon y goleuo a’r sain yn golygu y gallwn ni wastad roi sioe dda ymlaen!
Bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i addysg uwch ac i ysgolion drama i barhau â’u hyfforddiant yn y maes Celfyddydau Perfformio.