A hoffech gynyddu eich gallu fel artist perfformio a recordio? A ydych chi’n artist perfformio neu’n gyfansoddwr a chanwr sydd awydd dod yn gerddor proffesiynol?
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu mewn ymateb i ofynion presennol gan y diwydiant cerddoriaeth. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer datblygu eich sgiliau fel perfformiwr a chyfansoddwr, yn ogystal â’ch gwybodaeth dechnolegol a rhoi ichi ddealltwriaeth allweddol am y diwydiant a all eich helpu i ddatblygu eich gyrfa gerddorol.
Cewch wneud defnydd o amrywiaeth anhygoel o gyfleusterau technegol a stiwdios. Mae hyn yn cynnwys ystafelloedd â chyfarpar proffesiynol ac sydd a’r meddalwedd diwydiant diweddaraf, stiwdio recordio ac ystafell gymysgu sain amgylchynol, gan ei wneud yn un o gyfleusterau sain mwyaf blaenllaw Caerdydd.
Bydd hanner y cwrs hwn yn canolbwyntio ar berfformio a chrefft llwyfan, wrth i’r hanner arall ymdrin â:
Ein nod yw eich helpu i ddatblygu fel cerddor, perfformiwr ac arweinydd band, a hynny wrth roi dealltwriaeth gadarn ichi am farchnata, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo.
Nid yn unig rydym yn un o’r unig ysgolion sy’n cynnig hyfforddiant personol ar eich offeryn dewisol drwy gydol y cwrs, ond byddwch hefyd yn elwa ar weithdai a sesiynau ymarferol sy’n benodol ar gyfer crefft llwyfan, recordio, cymysgu, cynhyrchu a thrywydd cerddorol.
Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol dan arweiniad tiwtoriaid sy’n ymarfer yn weithredol mewn busnes cerddoriaeth:
Blwyddyn 1 (lefel 4):
Blwyddyn 2 (lefel 5):
Lefel 6:
Mae ein lleoliad, sy’n agos i’r sefyllfa gerddorol fywiog yng Nghaerdydd, yn cynnig profiadau unigryw ar gyfer lleoliadau gwaith, profiad gwaith a rhwydweithio. Yn rheolaidd, rydym yn mynd â myfyrwyr i recordio yn y Rockfield Studios anhygoel yn Sir Fynwy, yn ogystal â mynd â theithiau grŵp i Stuttgart i weithio yn y sector cerdd ieuenctid. Byddwn hefyd yn eich annog i gydweithio ag artistiaid a cherddorion eraill yn CCAF fel eich bod yn gallu cymhwyso eich sgiliau i amrywiaeth o sefyllfaoedd byw, gan weithio gyda pherfformwyr o amrywiaeth o genres.
Cliciwch yma am fwy
Ffioedd Dysgu: £9,000.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gradd Meistr neu gyflogaeth.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cwrs, gallwch ddilyn gyrfa fel:
Fodd bynnag, gallwch ehangu eich dewis o yrfaoedd posib drwy eich dewisiadau yn y flwyddyn derfynol. Gall hyn fod mewn addysgu, lleoliadau diwydiant neu drwy archwilio celf sonig.