BSc (Hons) mewn Seiberddiogelwch

L6 Lefel 6
Llawn Amser
13 Hydref 2025 — 19 Mai 2028
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Wrth i fwy o bobl dreulio fwyfwy o amser ar-lein, mae'r data y maent yn ei gynhyrchu yn cynyddu. Os nad oes gan sefydliadau a chwmnïau systemau gwybodaeth diogel yna gall data fynd i'r dwylo anghywir, sy'n gallu achosi canlyniadau peryglus.  Mae'r cwrs BSc mewn Seiberddiogelwch hwn wedi'i ddylunio i hyfforddi gweithwyr proffesiynol ym maes diogelwch y dyfodol, gan gyfuno cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol ag amlygiad i dechnolegau a datrysiadau newydd.

Bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth ymarferol o'r prif faterion sy'n gysylltiedig â dylunio, dadansoddi a gweithredu systemau diogelwch TG modern.  Bydd y cwrs yn datblygu gallu myfyrwyr i adnabod y materion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol sy'n ymwneud ag amlygu technoleg Seiberddiogelwch a chael eu harwain drwy fabwysiadu arferion proffesiynol, moesegol a chyfreithiol priodol.  

Mae'r cwrs wedi'i ddylunio i fodloni anghenion y diwydiant/gofynion y farchnad swyddi, a chynhyrchu graddedigion sy'n wybodus ac sydd wedi'u cyfarparu'n addas i fodloni anghenion y diwydiant. Bydd myfyrwyr sy'n astudio ar y radd seiberddiogelwch hon yn:

  • meithrin y sgiliau sydd eu hangen i fynd i'r afael â systemau diogelwch modern
  • datblygu gwerthfawrogiad o gyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau Seiberddiogelwch masnachol a chod agored
  • dysgu'r arferion rheoli a chymwysiadau sy'n ganolog i faterion Seiberddiogelwch
  • datblygu sgiliau rhyngbersonol a chraffter busnes.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Blwyddyn 1

  • Pensaernïaeth Cyfrifiadur
  • Rhaglennu
  • Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadura
  • Algorithmau a Mathau o Ddata
  • Systemau Gwybodaeth a Chronfeydd Data (ISDB)
  • Seiberddiogelwch mewn Cymdeithas

Blwyddyn 2

  • Cryptograffeg Gymhwysol
  • Theori Cyfrifiad
  • Deallusrwydd Artiffisial
  • Rhwydwaith a Diogelwch
  • Dadansoddiad o Ddiogelwch Seiber
  • Prosiect Ymchwil Grŵp

Blwyddyn 3

  • Rheoli Diogelwch Menter
  • Trosedd Seiber
  • Dysgu Peirianyddol
  • Pynciau Uwch mewn Seiberddiogelwch
  • Prosiect

Yn amodol ar gymeradwyaeth gan Brifysgol Gorllewin Llundain mewn digwyddiad cymeradwyo ym Mehefin 2020.

Amodau a Thelerau

Cliciwch yma am fwy

Gofynion mynediad

Pwyntiau UCAS 112-120. Gall hyn gynnwys;

  • Lefel A gradd B, B a C, neu uwch
  • Diploma Estynedig BTEC gyda Rhagoriaeth, Teilyngdod, Teilyngdod
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch
  • Byddwch hefyd angen TGAU Saesneg a Mathemateg (gradd 9-4 / A* - C) neu Lefel 2 sydd yn gyfwerth      

Ymgeiswyr hŷn (21+ oed): Os nad yw’r cymwysterau a nodir gennych, ond mae gennych y profiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi ymgeisio. Bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail unigol. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

13 Hydref 2025

Dyddiad gorffen

19 Mai 2028

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

13 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ITCC6F05
L6

Cymhwyster

BSc (Hons) Cyber Security

Wedi'i achredu gan:

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Fy hoff beth am y cwrs yw’r cyfleusterau sydd ar gael, a’r ffaith ein bod yn cael mynediad atynt trwy’r amser. Ar ôl i mi gwblhau fy nghwrs lefel 3 yn y coleg, ymrestrais ar y cwrs BSc mewn Seiberddiogelwch yn CCAF. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, hoffwn symud ymlaen at gwrs meistr mewn Fforensig Ddigidol, ac yna gweithio gyda’r adran heddlu i ganfod troseddwyr seiber.

Heather Curtis-Rich
Cyn-fyfyriwr Cyfrifiadura lefel 3, bellach yn astudio’r cwrs BSc (Anrh) mewn Seiberddiogelwch yn CCAF

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Mae gofyn mawr am weithwyr proffesiynol yn y maes Seiberddiogelwch ar draws bob diwydiant. Yn gyffredinol mae gan raddedigion Seiberddiogelwch record dda o ennill cyflogaeth a mynd ymlaen yn eu gwaith proffesiynol. Bydd graddedigion y cwrs BSc (Anrh) Seiberddiogelwch yn gallu ennill cyflogaeth fel arbenigwyr Seiberddiogelwch mewn ystod eang o sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys gorfodi'r gyfraith, asiantaethau'r llywodraeth ac ymgynghoriaethau diogelwch, neu mewn adrannau TG masnachol a swyddi cyfrifiadura eraill lle mae diogelwch cyfrifiadurol yn codi.  Er enghraifft, mae swyddi poblogaidd i raddedigion Seiberddiogelwch BSc yn cynnwys

  • technegydd rhwydwaith neu ddiogelwch cyfrifiadurol
  • swyddog diogelwch cyfrifiadurol neu rwydwaith
  • swyddog adnabod a rheoli mynediad
  • dadansoddwr ymateb i fygythiadau a digwyddiadau
  • swyddog preifatrwydd data
  • ymgynghorydd diogelu data
  • dadansoddwr gweithrediadau diogelwch
  • pensaer diogelwch cwmwl
  • ymgynghorwr diogelwch
  • rheolwr cysondeb busnes
  • rheolwr risg gwybodaeth
  • rheolwr rheoli gwybodaeth
  • cryptograffwr/cryptolegwr
  • datblygwr meddalwedd diogelwch
  • archwilydd cod ffynhonnell
  • technegydd firysau.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE