Mae'r Diploma Lefel 3 VTCT mewn Gwallt a Cholur y Cyfryngau (QCF) yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol i ddysgwyr sy'n awyddus am yrfa fel artist gwallt a cholur cyflogedig a/neu hunangyflogedig.
Bydd myfyrwyr yn gweithio gydag ymarferwyr i lefel uchel o allu galwedigaethol, gan ddarparu gwasanaethau gwallt a cholur ym myd cyfryngau, theatr, y celfyddydau perfformio, ffasiwn a'r diwydiannau ffotograffig. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i seilio ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) mewn gwasanaeth ewinedd fel y cydnabyddir gan gyrff proffesiynol blaenllaw'r DU (Cymdeithas Therapi Harddwch a Chosmetoleg Prydain (BABTAC) a'r Ffederasiwn Therapyddion Holistig (FHT)) fel y safonau addas i baratoi dysgwyr am yrfa fel artist gwallt a cholur iau. Mae'n ofynnol i ddysgwyr brynu cit a gwisg proffesiynol er mwyn cyflawni'r cwrs (tua £650). Byddwch hefyd yn mynd i'r afael ag oriau profiad gwaith ychwanegol, tu hwnt i'ch amserlen yn y coleg.
Bydd gofyn i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) bob amser yn y salonau a'r clinig. Mae'n rhaid i'r dysgwr brynu'r wisg lawn. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau caeedig fflat.
Bydd y canlynol yn cael eu darparu gan y coleg:
Mae'r cwrs yn mynd i'r afael ag ystod o agweddau gan gynnwys:
Mae nifer o'n dysgwyr yn mynd i weithio mewn diwydiant neu'n mynd ymlaen i gwrs addysg uwch mewn prifysgol.
Ffi Salon: £30.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Os ydych chi'n meddwl dechrau cwrs yma ewch amdani! Rwyf wedi cael profiad mor wych yma ac rwy'n gyffrous am fy nyfodol.