Bydd y cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y maes Peirianneg.
Mae'r cwrs yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymarferol a all arwain at yrfa ym maes Peirianneg Drydanol, Fecanyddol, Cynnal a Chadw, Gwasanaethau Adeiladu neu Ddylunio.
Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio:
5 TGAU Gradd A* - C i gynnwys Mathemateg A* - B, Gwyddoniaeth A*-C a Saesneg A*-D Bydd angen PPE ar ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y cwrs hwn, gan gynnwys esgidiau blaen dur ac oferôls.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mi wnes i ystyried dod i’r coleg a gweld mai Peirianneg Drydanol oeddwn i eisiau ei wneud. Roedd i’w weld yn gyfle da i mi, felly fe ddes i weld a oedd hwn yn rhywbeth yr oedd gen i ddiddordeb ynddo ac eisiau gwneud gyrfa ohono.
Rwyf wirioneddol wedi mwynhau’r sesiynau ymarferol ar y cwrs; ac mae’r cyfleusterau’n wych gan fod ganddynt bopeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Fel rhan o’m cwrs rwyf wedi defnyddio dronau a robotiaid bychan hefyd. Mae’r athrawon wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol y cwrs ac ar ôl cwblhau’r cwrs hwn rwy’n gobeithio ennill Prentisiaeth Uwch neu fynd yn fy mlaen i’r Brifysgol i astudio Peirianneg Drydanol.
Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn galluogi’r myfyrwyr i ddychwelyd ar gyfer Diploma neu Ddiploma Estynedig EAL mewn Technolegau Peirianyddol Uwch, yn ogystal â’u paratoi ar gyfer ymuno â Phrentisiaeth Dechnegol/Beirianyddol.