Ymgollwch ym myd deinamig dylunio amlgyfrwng gyda’n cwrs dwy flynedd hollgynhwysol sy’n cyfuno creadigrwydd â thechnoleg o’r radd flaenaf. P’un a ydych yn ddarpar artist amlgyfrwng neu’n artist proffesiynol sy’n awyddus i wella eich sgiliau, mae’r cwrs hwn yn darparu’r cymysgedd perffaith o wybodaeth ddamcaniaethol a chymhwysedd ymarferol i ddod â’ch gweledigaethau creadigol yn fyw.
Egwyddorion Craidd Amlgyfryngau: Dewch i ddeall egwyddorion o ddylunio amlgyfrwng, gan gynnwys integreiddiad testun, graffeg, sain, fideo ac animeiddiad i greu cynnwys cydlynol ac atyniadol.
Meistrolaeth Meddalwedd:
Enillwch hyfedredd mewn meddalwedd safon diwydiant fel Adobe Creative Suite (Photoshop, Illustrator, After Effect, Permiere Pro), offer modelu 3D a llwyfannau dylunio gwe.
Prosiectau Creadigol: Ymgysylltwch â phrosiectau amrywiol, o gynhyrchu ac animeiddio fideo i adrodd straeon digidol a dylunio gwe rhagweithiol. Datblygwch bortffolio amryddawn sy’n arddangos eich arbenigedd ar draws nifer o gyfryngau.
Cyfryngau Rhyngweithiol: Dysgwch i greu cynnwys rhyngweithiol ar gyfer llwyfannau amrywiol, gan gynnwys gwefannau, apiau ffonau symudol ac amgylcheddau rhithiol. Archwiliwch egwyddorion dylunio profiad y defnyddiwr (UX) a rhyngwyneb defnyddiwr (UI) i wella ymgysylltiad defnyddwyr.
Tactegau a Thechnegau Dylunio: Diweddarwch eich hun ar y tueddiadau diweddaraf mewn amlgyfryngau, gan gynnwys graffeg symudol a phrofiadau cyfryngau trochol.
Dadansoddi Beirniadol ac Adborth: Cymryd rhan mewn asesiadau a derbyn adborth gwerthfawr gan gyfarwyddwyr profiadol a chyfoedion. Rhowch sglein ar eich gwaith drwy ddadansoddiad adeiladol a dysgu ar y cyd.
Datblygiad Proffesiynol: Arfogwch eich hun â’r sgiliau i lwyddo yn y diwydiant amlgyfryngau. Dysgwch am reoli prosiect, cyfathrebu â chleientiaid, gwaith llawrydd a llywio’r farchnad swyddi. Bydd dysgwyr yn gallu datblygu amrywiaeth o sgiliau sy'n ymwneud â'r maes sydd o ddiddordeb iddynt, yn ogystal â'u gallu creadigol.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
5 TGAU A* - C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg, neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd Llwyddo neu uwch. Rhaid ichi fynychu cyfweliad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Roedd y dysgu’n wych ac roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi’n dda iawn. Roedd yna diwtora un i un ar gael bob amser ac roeddwn wir angen hynny pan oeddwn yn teimlo’n ddihyder. Roedd cyfleusterau’r coleg yn rhagorol, bob blwyddyn roedd gennym dechnoleg ac offer newydd y gallem eu harchwilio, ac roeddwn i’n teimlo bod fy sgiliau wir yn datblygu trwy hynny.
Ar ôl gorffen y cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i'r Brifysgol. Mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant ym maes Animeiddio, Graffeg Symudiad, Dylunio Profiad Defnyddiwr/ Rhyngwyneb Defnyddiwr, Ffilm, Ôl-gynhyrchu Ffilm, Modelu 3D, Gwefan, Dylunio Gemau, Artist Effeithiau Arbennig Gweledol.