Mae ein cwrs Diploma mewn Dylunio yn wych ar gyfer unigolion sy’n awyddus i ymestyn eu datblygiad yn y sector creadigol. Wedi’i lleoli ar ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r rhaglen hon yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddysgu amrywiaeth o ddulliau dylunio tri dimensiwn, yn ogystal â mynd i'r afael â rhai elfennau o ddylunio graffig. Gall dysgwyr ddisgwyl datblygu ystod o sgiliau yn ymwneud â’r maes pwnc sydd o ddiddordeb penodol iddyn nhw a’u potensial creadigol.
Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ymateb yn greadigol i friffiau prosiect uned a rhoddir blas iddynt ar feysydd arbenigol megis:
• Dylunio Cynnyrch
• Dylunio Graffeg
• Dylunio Dodrefn
• Graffeg Gyfrifiadurol
• Dylunio Pecynnau
• Dylunio Set Ffilm a Phropiau
• Dylunio Theatr
• Dylunio mewnol
• Pensaernïaeth
Bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio rhyng-berthnasau rhwng technoleg ddylunio, cynulleidfaoedd targed, ergonomeg ac estheteg. Bydd sgiliau yn cynnwys astudio Prosesau Deunyddiau a Gweithdai, Modelu Cyfrifiaduron 3D, Egwyddorion Ergonomaidd, Cyfathrebu Graffig a Dylunio mewn cyd-destun.
Arweinir y rhaglen hon gan brosiect ac fe’i lleolir mewn stiwdio. Mae asesiadau yn barhaus ac rydych yn cael eich graddio ar gyflwyno gwaith prosiect ac aseiniadau drwy gydol y cwrs. Mae gan yr adran greadigol weithdai a chyfleuster cyfrifiadurol 3D/Celf helaeth.
Gweithdai a Digwyddiadau
Amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael
Mynediad at offer proffesiynol ac offer ar gyfer pren, metel, plastig
• Prototeip graddfa lawn/cynhyrchiant creu modelau gan gynnwys CNC a 3D
• Cysylltiadau gyda diwydiannau lleol
Ystafelloedd Cyfrifiaduron:
• Cyfrifiaduron Mac
• Cyfleusterau Argraffu Laser Lliw
Sinema 4D, Ystafell Greadigol Adobe (Photoshop, Illustrator)
Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn defnyddio ein meddalwedd safon diwydiant 3D- sinema 4D ar gyfer cyflwyniadau sy’n ymddangos yn broffesiynol.
Bydd prosiectau byw a chystadlaethau yn cael eu noddi gan ddiwydiannau lleol, gan annog arloesedd a chreadigrwydd. Mae'r rhain yn cynnwys:
• Dylunio propiau ar gyfer Diwydiannau Ffilm Tonto
• Cystadleuaeth Dragon’s Den wedi’i noddi gan Fenter Caerdydd a'r Fro
• Dylunio Set mewn cydweithrediad â’r Royal Opera House a'r Academi Sgiliau Cenedlaethol - Sgiliau Creadigol a Diwylliannol.
Mae pynciau Blwyddyn 1 yn cynnwys:
Mae pynciau Blwyddyn 2 yn cynnwys:
Bydd dysgwyr hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru fel rhan o’u rhaglen astudio, sydd hefyd yn cynnwys sesiynau tiwtorial ac e-diwtorialau wythnosol.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd llwyddo neu uwch. Rhaid i chi gyflwyno portffolio o'ch gwaith yn ystod eich cyfweliad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Wedi cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i radd Prifysgol neu Sylfaen mewn amrywiaeth o bynciau creadigol, yn cynnwys:
Bydd nifer o fyfyrwyr hefyd yn mynd ar drywydd amrywiol gyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant creadigol. Trwy gymryd rhan ym mhob maes o'r rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn casglu portffolio cynhwysfawr ynghyd i'w ddefnyddio mewn cyfweliadau yn y dyfodol.