Astudiaethau Crefyddol - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2025 — 21 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Astudiaethau Crefyddol A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Astudir pob un o’r pynciau ar y cwrs hwn o safbwynt myfyriol ac athronyddol, a rhaid i fyfyrwyr fod yn barod i archwilio, trin a thrafod amrywiaeth o gredoau a materion.

Nodau'r cwrs:

Nid oes angen unrhyw ddealltwriaeth flaenorol o'r pwnc, sydd â’r nodau o:

  • Ddatblygu diddordeb a brwdfrydedd tuag at astudio crefydd a'i effaith ar gymdeithas
  • Trin y pwnc fel disgyblaeth academaidd
  • Annog ymholiad i natur crefydd trwy sgwrs, trafodaeth a darllen helaeth

Beth fyddwch yn ei astudio?

Yn ystod y cwrs, fe drafodir y meysydd canlynol:

Uned 4: Crefydd a Moeseg

Bydd myfyrwyr yn archwilio:

  • Syniadau Moesegol trwy Naturoliaeth, Sythwelediaeth ac Emosiynaeth
  • Moeseg Ddeontolegol trwy Ddeddf Naturiol, Cyfranoliaeth a’u cymhwysiad i fewnfudo a chosb eithaf
  • Penderfyniaeth trwy Awstin Sant a John Calvin
  • Ewyllys Rhydd o Pelagius, Arminius a rhyddewyllysiaeth Uned 5: Athroniaeth Crefydd

Bydd myfyrwyr yn archwilio:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o grefydd a chred trwy Freud a Jung
  • Profiadau Crefyddol - Gwyrthiau
  • Iaith Grefyddol a phositifiaeth resymegol
  • Iaith Grefyddol fel gêm symbolaidd, fytholegol ac iaith

Uned 6: Astudiaethau Testunol – Testament Newydd

Bydd myfyrwyr yn archwilio:

  • Y Damhegion - mathau a diben
  • Gwyrthiau - mathau, dibenion a dehongliadau
  • Epistolau- 1 Pedr - awduraeth a diben
  • Llenyddiaeth Apocalyptaidd: Datguddiad – diffiniadau, nodweddion, dibenion a dehongliadau

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

21 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F15
L3

Cymhwyster

Religious Studies - A2

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd. 
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.

Charlotte Hall
Yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, y Gyfraith, Seicoleg a Bagloriaeth Cymru

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Gwareiddiad Clasurol
  • Daearyddiaeth
  • Hanes
  • Y Gyfraith
  • Athroniaeth
  • Astudiaethau Crefyddol
  • Cymdeithaseg
  • Diwinyddiaeth 

Angen gwybod

Camau nesaf

Cadw eich lle

Os hoffech gadw eich lle ar y cwrs Cyflwyniad i Arwain a Rheoli, cliciwch isod

Lawrlwytho'r Prosbectws Rhyngwladol

Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'n prosbectws

Cysylltu â ni

Os hoffech gysylltu â ni

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE