Mae’r rhaglen Seicoleg A2 yn dilyn ymlaen o Seicoleg UG a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.
Mae A2 Seicoleg yn cynnwys dau fodiwl: Goblygiadau yn y Byd Real a Dulliau Ymchwil Cymwysedig.
Uned 3
Seicoleg: Goblygiadau yn y Byd Real Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud 40% o gymhwyster Safon Uwch
Wedi dysgu am amrywiol ymagweddau seicolegol yn Uned 1, disgwylir i ddysgwyr gymhwyso’r wybodaeth a dealltwriaeth hon i ymddygiadau dynol ac anifeilaidd. Dylai myfyrwyr allu esbonio a dod i gasgliadau ynghylch achosion posibl yr ymddygiadau hyn a deall fod gan seicoleg y potensial i effeithio ar gymdeithas yn gyffredinol trwy ddatblygu dulliau o addasu ymddygiad. Yn ogystal, dylai disgyblion archwilio pum pwnc llosg sy'n parhau i gyflwyno heriau ar gyfer seicoleg. Gellir ystyried y pynciau llosg hyn yn gyfolwg, gan wneud defnydd o gynnwys o’r fanyleb gyfan.
Uned 4
Seicoleg: Dulliau Ymchwil Cymwysedig Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud 20% o gymhwyster Safon Uwch
Mae’n angenrheidiol i ddysgwyr wybod a deall y methodolegau a ddefnyddir mewn seicoleg ac i allu gwerthuso cryfderau a gwendidau'r rhain. I sicrhau gwir werthfawrogiad o'r methodolegau hyn, disgwylir i’r myfyrwyr gael profiad uniongyrchol o ddau ddull ymchwil. Bydd yn ofynnol i ddisgyblion ymateb i gwestiynau parthed yr ymchwiliadau hyn yn yr asesiad. Ail agwedd yr elfen hon yw i ddysgwyr ddefnyddio eu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau ymchwil i senarios ymchwil newydd, gan wneud dyfarniad ar fanylion yr ymchwil seicolegol.
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol: