Mae’r Addysg Gorfforol - Safon UG yma yn gwrs un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Gall fod yn bosibl dilyn y cwrs hwn fel myfyriwr rhan amser.
Bydd y cwrs yn galluogi dysgwyr i:
• ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol o’r ffactorau sy’n greiddiol i weithgaredd corfforol a chwaraeon a defnyddio’r wybodaeth hon i wella perfformiad.
• deall sut mae’r cyflyrau ffisiolegol a seicolegol yn effeithio ar berfformiad.
• deall y ffactorau diwylliannol gymdeithasol allweddol sy’n dylanwadu ar gysylltiad pobl â gweithgaredd corfforol a chwaraeon.
• deall rôl technoleg mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon.
• mireinio eu gallu i berfformio’n effeithiol mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon drwy ddatblygu sgiliau a thechnegau a dewis a defnyddio tactegau, strategaethau a/neu syniadau cyfansoddiadol.
• datblygu eu gallu i ddadansoddi a gwerthuso i wella perfformiad.
• deall y cyfraniad mae gweithgaredd corfforol yn ei wneud i iechyd a ffitrwydd.
• gwella fel dysgwyr effeithiol ac annibynnol ac fel meddylwyr beirniadol a myfyriol â meddyliau chwilfrydig a holgar.
Ceir un asesiad ar ddiwedd y flwyddyn; asesiad ymarferol fel perfformiad, hyfforddwr a swyddog mewn un gamp, cynhyrchu proffil perfformiad personol.
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol C mewn Bioleg Uwch, neu BB yn y Dyfarniad Dwbl neu B mewn TGAU Mae Hyfforddi Addysg Gorfforol, perfformiad ymarferol a phroffiliau perfformiad yn cyfrannu 40% tuag at Safon Uwch Addysg Gorfforol. Am y rheswm hwn mae’n hanfodol bod dysgwyr yn cymryd rhan weithredol mewn o leiaf un gweithgaredd chwaraeon.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol: