Y Gyfraith - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2025 — 21 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Cyfraith Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Mae’r cwrs yn cynnwys dwy uned yn trafod strwythurau a phrosesau cyfreithiol, rhesymeg gyfreithiol a phersonél.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Uned 1: Deall Strwythurau a Phrosesau Cyfreithiol

  • Datblygiad y system cyfraith gyfraith gyffredin a dylanwad sylfaenol rheolaeth cyfraith, hawliau dynol a moesoldeb ar ein cyfreithiau.
  • Systemau'r llysoedd a sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd (yn cynnwys ymweliad i'r llysoedd).
  • Y broses droseddol yn cynnwys caniatáu mechnïaeth a threialon rheithgor.
  • Y broses sifil yn cynnwys dewisiadau amgen i’r llysoedd a system y tribiwnlysoedd.
  • Mynediad at gyfiawnder a’r angen am gymorth cyfreithiol.

Mae yna un arholiad ysgrifenedig (1awr 30m) yn Ionawr neu Fehefin, sy'n cynnwys ateb dau draethawd dwy ran.

Uned 2: Deall rhesymeg gyfreithiol a phersonél

  • Mae hyn yn galw am astudio ffynonellau’r gyfraith ac edrych ar sut y’i defnyddir yn y llysoedd. Mae cynsail farnwrol yn gyfraith achos a benderfynir gan y barnwyr. Mae dehongliad statudol yn ymwneud â chyfraith a luniwyd gan y Senedd a sut mae barnwyr yn dehongli eu geiriau. Yn olaf, byddwn yn archwilio cyfreithiau Ewropeaidd a sut maent yn effeithio ar gyfraith Lloegr.
  • Mae’r pwnc personél yn edrych ar ddethol a rolau cyfreithwyr, bargyfreithwyr, barnwyr ac ynadon.

Ceir un arholiad ysgrifenedig (1awr 30m) yn Ionawr neu Fehefin sy'n cynnwys dau gwestiwn cymhwyso gofynnol ble mae myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth o ffynonellau'r gyfraith i ddatrys senarios ffuglennol.

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith B

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

21 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F12
L3

Cymhwyster

Law - AS

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Rheoli Busnes
  • Y Gyfraith
  • Newyddiaduriaeth
  • Gwleidyddiaeth
  • Addysgu

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE