Y Gyfraith - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
4 Medi 2025 — 21 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Cyfraith A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Yn ystod y cwrs, fe drafodir y meysydd canlynol:

  • Hawliau Dynol
  • Rôl y gyfraith
  • Rhyddid i lefaru
  • Rhyddid y person
  • Rhyddid crefyddol
  • Hawl i breifatrwydd
  • Cyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu

Mae’r pynciau yn cynnwys:

  • Mae Hawliau Dynol yn mynd i fanylder ynghylch y cysyniad o ryddid dan y gyfraith
  • Rôl y gyfraith o ran rheoleiddio rhyddid a gallu’r Llysoedd a'r Senedd i amddiffyn rhyddid ynghyd â rhwymedigaethau Ewropeaidd dan Gonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol a’r Ddeddf Hawliau Dynol
  • Mae rhyddid i lefaru yn archwilio meysydd fel cyfrinachedd swyddogol, anlladrwydd, difenwi a rheoli arddangosiadau a phrotest
  • Mae rhyddid y person yn edrych ar bwerau'r heddlu i chwilio, arestio a chadw dinasyddion
  • Mae’r
    hawl i breifatrwydd yn cynnwys rôl gwasg rydd a gallu’r heddlu a gwasanaethau diogelwch i gynnal ymgyrchoedd cudd megis gwrando ar alwadau ffôn
  • Edrycha rhyddid crefyddol ar y broblem o ddilyn crefydd mewn Prydain fodern, amlddiwylliannol
  • Yn olaf byddwn yn edrych ar faes cynyddol cyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu megis hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb a chrefydd

Mae tri arholiad ym Mehefin. Yn LW4 mae myfyrwyr yn ateb dau gwestiwn am broblem o ddewis o bedwar ble cyflwynir senario a rhaid i chi roi cyngor i gleient. Mae LW5 yn ddau draethawd o ddewis o chwech ble gofynnir i chi ddadansoddi materion yn feirniadol. Mae LW6 yn gwestiwn synoptig sy'n gofyn i chi drafod maes pwysig o hawliau dynol gan gyfeirio at y gwaith a wnaed ar lefel UG.

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Addysgu ac Asesu

  • Tri arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2025

Dyddiad gorffen

21 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F10
L3

Cymhwyster

Law - A2

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Rheoli Busnes
  • Y Gyfraith
  • Newyddiaduriaeth
  • Gwleidyddiaeth
  • Addysgu

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE