Hanes - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2025 — 23 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Hanes Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r cymhwyster hwn yn cynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu ac ymarfer sgiliau hanesydd, gan drafod meysydd astudio eang iawn.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Fel rhan o'r cwrs, ymdrinnir â'r meysydd canlynol:

Uned 1:

Llywodraeth, Gwrthryfel a Chymdeithas yng Nghymru a Lloegr c.1485-1603

Bydd myfyrwyr yn ystyried datblygiadau yng Nghymru a Lloegr dros gyfnod eang, gan ystyried pynciau arwyddocaol a'u cysylltiadau, megis:

  • Arwyddocâd y prif newidiadau mewn gwleidyddiaeth a llywodraeth 1485 - 1603
  • Arwyddocâd y prif ddatblygiadau mewn crefydd 1529 - 1588
  • Arwyddocâd y prif brotestiadau a gwrthryfeloedd yn erbyn y brenhinoedd a breninesau Tuduraidd 1509 - 1569
  • Hyd a lled y newid economaidd a chymdeithasol yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg
  • Y berthynas newidiol rhwng Cymru a Lloegr ar ôl 1530 

Uned 2: Yr Almaen: Democratiaeth ac Unbennaeth c.1918-1945 

Rhan 1: Weimar a'i heriau c.1918-1933

Drwy ddadansoddi a gwerthuso amrywiaeth o wahanol fathau o ffynonellau cynradd a/neu gyfoes, bydd myfyrwyr yn archwilio:

  • Yr heriau oedd yn wynebu gweriniaeth Weimar 1918 - 1923
  • Hyd a lled y newid mewn polisi tramor ac economaidd 1924 - 1933
  • Y newid yn hynt y blaid Natsïaidd 1924 - 1933
  • Argyfwng gweriniaeth Weimar 1929-1933

Dehongliadau hanesyddol o faterion allweddol o'r cyfnod hwn.

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B Gofynion Eraill: B mewn TGAU Hanes

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

23 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F09
L3

Cymhwyster

History - AS

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Archaeoleg
  • Economeg
  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Hanes
  • Gwleidyddiaeth
  • Athroniaeth
  • Cymdeithaseg
  • Diwinyddiaeth

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE