Hanes - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
4 Medi 2025 — 21 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Hanes A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Fel rhan o'r cwrs, ymdrinnir â'r meysydd canlynol:

Uned 3: Y Newid yn Arweinyddiaeth a Chymdeithas Rwsia c.1881-1989

Yn ystod eu hastudiaethau, bydd myfyrwyr yn ystyried natur amrywiol cymdeithas, a tharddiad, natur a dylanwad newid gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a chrefyddol yng nghyd-destun Rwsia ar draws yr ugeinfed ganrif. 

  • Newid a pharhad yn Rwsia 1881 - 1917
  • Canlyniadau chwyldro 1917 - 1953
  • Effaith polisïau economaidd a chymdeithasol Stalin
  • Y newid mewn cyfundrefnau o Stalin i Gorbachev
  • Arwyddocâd polisïau o ddat-Stalineiddio i Gorbachev
  • Tebygrwydd a gwahaniaeth c.1881- 1989 

Uned 4: Yr Almaen: Democratiaeth ac Unbennaeth c.1918-1945 

Rhan 2: Yr Almaen Natsïaidd c.1933-1945 

Mae'r rhan hon yn ddilyniant o'r astudiaeth fanwl a astudiwyd ar gyfer Uned 2, a bydd yn darparu'r cyfle i fyfyrwyr roi eu dysgu a'u sgiliau ar waith i raddau helaethach.

  • Datblygiadau pellach yn rheolaeth y Natsïaid ar yr Almaen ar ôl 1933
  • Effaith polisïau hiliol, cymdeithasol a chrefyddol y Natsïaid 1933 - 1945
  • Effeithiolrwydd polisi economaidd y Natsïaid 1933 - 1945

Y newid ym mholisi tramor y Natsïaid a'r Ail Ryfel Byd 1933 -1945 

Uned 5:
Mae Uned 5 yn asesiad di-arholiad (NEA). Bydd dysgwyr yn archwilio mater sy'n destun dadl hanesyddol drwy astudio gwahanol ddehongliadau hanesyddol. Mae'r uned hon yn annog dysgwyr i ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau, cyfoes a hwyrach, i egluro sut a pham y ffurfir dehongliadau hanesyddol gwahanol.

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Addysgu ac Asesu

  • Arholiadau, gwaith cwrs ac asesiad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2025

Dyddiad gorffen

21 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F07
L3

Cymhwyster

History - A2

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rwyf wrth fy modd yn astudio fy nghwrs yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n gymaint o sbort!  Mae'r annibyniaeth a'r rhyddid rydych chi'n eu cael yn wych A chewch eich tri fel oedolyn. Rwyf wrth fy modd. Yn y coleg, mae'n debyg fy mod wedi mwynhau'r perthnasaoedd clos sydd gennyf gyda fy athrawen.  Rwyf wirioneddol yn teimlo y gallaf droi at fy athrawon gydag unrhyw broblemau yr wyf yn eu cael ac y byddant yn fy helpi i weithio dryddynt."

Gwellian Mellor
Yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Ffilm, Dawns a Drama

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Archaeoleg
  • Economeg
  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Hanes
  • Gwleidyddiaeth
  • Athroniaeth
  • Cymdeithaseg
  • Diwinyddiaeth

Angen gwybod

Camau nesaf

Cadw eich lle

Os hoffech gadw eich lle ar y cwrs Cyflwyniad i Arwain a Rheoli, cliciwch isod

Lawrlwytho'r Prosbectws Rhyngwladol

Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'n prosbectws

Cysylltu â ni

Os hoffech gysylltu â ni

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE