Mae’r cwrs Safon Uwch TAG CBAC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn rhoi’r wybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau trylwyr a manwl i fyfyrwyr sy'n ymwneud â datblygiad a gofalu am unigolion drwy gydol eu hoes. Mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth ymhellach o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd wedi cwblhau’r cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel UG.
Ar ôl astudiaeth eang o iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant ar lefel UG, mae modd i ddysgwyr ddewis rhwng dau lwybr A2 i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn mewn naill ai gofal plant neu iechyd a gofal cymdeithasol oedolion.
Bydd y llwybr Gofal Plant yn ymdrin â:
• Safbwyntiau damcaniaethol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
• Cefnogi datblygiad, iechyd, llesiant a gwytnwch plant a phobl ifanc.
Bydd y llwybr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion yn ymdrin â:
• Safbwyntiau damcaniaethol ar ymddygiad oedolion
• Cefnogi oedolion i gynnal eu hiechyd, eu llesiant a’u gwytnwch.
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.
Mae’r cymhwyster yn darparu sylfaen addas i astudio iechyd a gofal cymdeithasol drwy ystod eang o gyrsiau addysg uwch, neu i gyflogaeth. Gall dysgwyr hefyd fynd ymlaen i gwblhau cymwysterau eraill o fewn y gyfres o gyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.
Yn ogystal, mae’r fanyleb yn cynnig cwrs astudio cydlynol, boddhaus a gwerth chweil i ddysgwyr nad ydynt yn dymuno mynd ymlaen i astudio’r pwnc ymhellach, ond a fydd yn denu pwyntiau UCAS a all helpu dysgwyr fynd ymlaen i astudio cyrsiau Addysg Uwch.