Dylunio Graffeg - UG

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Dylunio Graffig Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser. Mae’r cwrs yn cynnig amrywiaeth eang o ymagweddau i Ddylunio Graffig i chi, a byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau, yn academaidd ac ymarferol, trwy ddefnyddio meddalwedd graffeg a rhaglenni darlunio soffistigedig. Bydd prosiectau dylunio hefyd yn eich galluogi i gymhwyso potensial creadigol, theori ac ymarfer i ddatrysiadau gweledol, a’u cyfathrebu trwy amrywiaeth o gyfryngau yn cynnwys digidol, sgematig a ffotograffiaeth.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’r cwrs yn cynnwys cyfres o ymchwiliadau personol. Gallai’r pynciau a astudir gynnwys:

  • Teipograffeg
  • Dylunio logo
  • Dylunio clawr albwm
  • Dylunio clawr llyfr
  • Dylunio poster

Bydd myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol perthnasol a thechnegau traddodiadol.

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B B mewn TGAU Celf neu Graffeg yn ddelfrydol

Addysgu ac Asesu

  • Aseiniad gwaith cwrs

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ASCC3F08
L3

Cymhwyster

Graphic Design - AS

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rydw i’n credu bod fy amser i yn CAVC wedi fy helpu i gyrraedd y nodau oedd gen i pan wnes i gais i’r Coleg, Roedd y gefnogaeth a gefais i gan fy athrawon a fy nghyfoedion drwy gydol fy nghyrsiau yn galluogi i mi ddatblygu a llwyddo yn greadigol ac yn academaidd.”

Laurie Powell
Astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Astudiaethau Ffilm, Dylunio Graffeg a Ffotograffiaeth

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Celf
  • Animeiddio
  • Busnes a Rheoli
  • Dylunio Graffeg
  • Ffotograffiaeth

Angen gwybod

Camau nesaf

Cadw eich lle

Os hoffech gadw eich lle ar y cwrs Cyflwyniad i Arwain a Rheoli, cliciwch isod

Lawrlwytho'r Prosbectws Rhyngwladol

Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'n prosbectws

Cysylltu â ni

Os hoffech gysylltu â ni

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE