Y Llywodraeth a Gwleidyddiaeth - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2025 — 21 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Llywodraeth a Gwleidyddiaeth A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae Llywodraeth a Gwleidyddiaeth A2 yn dilyn ymlaen o UG ac yn cynnwys y ddwy uned ganlynol:

Uned 3: Prosesau Cynrychiadol yn UDA (arholiad ysgrifenedig 1.5awr)

  • Etholiadau a Phleidleisio - dealltwriaeth o’r system etholiadol
  • Pleidiau Gwleidyddol - deall traddodiadau ac ideolegau
  • Grwpiau Ymgyrchu - dealltwriaeth o wahanol gategorïau o grwpiau a sut maent yn gweithredu
  • Gwleidyddiaeth Hil ac Ethnigrwydd - dealltwriaeth o amrywiaeth hiliol yn yr Unol Daleithiau

Uned 4: Llywodraethu UDA (arholiad ysgrifenedig 1.5awr)

  • Y Cyfansoddiad - dealltwriaeth o egwyddorion a natur Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau
  • Cyngres - dealltwriaeth o rolau a strwythurau
  • Arlywyddiaeth - dealltwriaeth o’r pwerau ffurfiol ac anffurfiol
  • Y Goruchaf Lys - gwybodaeth o gyfansoddiad a rôl y Goruchaf Lys

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

21 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F06
L3

Cymhwyster

Government & Politics - A2

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobl wych o gefndiroedd amrywiol; roeddwn i’n hoffi’r amrywiaeth yn y Coleg. Yn fy marn i, roedd y rhyddid oedd y Coleg yn ei roi i mi gyda fy astudiaethau yn rhoi i mi’r adnoddau oeddwn i eu hangen i fod yn weithiwr mwy annibynnol a bod â hyder i ddatblygu pethau ar fy mhen fy hun.”

Bianca Zerbini
Astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Celf a Mathemateg ac A mewn Ffiseg

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Rheoli Busnes
  • Gofal
  • Y Gyfraith
  • Newyddiaduriaeth
  • Gwleidyddiaeth
  • Addysgu

Angen gwybod

Camau nesaf

Cadw eich lle

Os hoffech gadw eich lle ar y cwrs Cyflwyniad i Arwain a Rheoli, cliciwch isod

Lawrlwytho'r Prosbectws Rhyngwladol

Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'n prosbectws

Cysylltu â ni

Os hoffech gysylltu â ni

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE