Mae’r rhaglen Astudiaethau Busnes A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn y dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.
Mae Astudiaethau Busnes A2 yn dilyn ymlaen o UG ac yn cwmpasu dwy uned:
Mae Uned 3 yn adeiladu ar y theori a gyflwynwyd yn Unedau 1 a 2, ac fel yr awgryma’r teitl, mae’r pwyslais yn yr uned hon ar ddeall a defnyddio technegau dadansoddol a datblygu strategaethau busnes priodol. Bydd myfyrwyr angen deall, adeiladu a dadansoddi amrywiaeth o fodelau i wneud penderfyniad a dulliau gwerthuso a ddefnyddir gan fusnesau i benderfynu ar eu strategaeth. Mae angen i ddysgwyr ddatblygu sgiliau dadansoddol i ymchwilio i gyfleoedd busnes a phroblemau mewn nifer o wahanol gyd-destunau a gwerthuso amrywiaeth o ddata meintiol ac ansoddol i awgrymu ymatebion strategol posibl gan fusnesau.
Bydd yr arholiad yn cael ei asesu yn defnyddio amrywiaeth o gwestiynau yn seiliedig ar senarios busnesau bach.
Bydd Uned 4 yn asesu'r cynnwys Safon Uwch llawn, ac yn ffocysu ar sut mae angen i fusnesau addasu i lwyddo mewn amgylchedd deinamig allanol. Bydd angen i fyfyrwyr ddeall nad yw’r byd busnes fyth yn sefyll yn ei unfan a bod cyfleoedd a bygythiadau parhaus i fusnesau o bob maint. Bydd hefyd angen i ddisgyblion werthfawrogi waeth beth yw ei faint, mae busnesau nawr yn gweithredu mewn marchnad fyd eang ac mae angen iddynt ystyried amrywiaeth eang o ffactorau allanol sy'n effeithio ar eu gweithgareddau, penderfyniadau a strategaeth o ddydd i ddydd.
Gofynnir i ddysgwyr integreiddio’r wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau a ddatblygir yn y pedair uned i arddangos dealltwriaeth holistaidd o weithgaredd busnes a’r amgylchedd y maent yn gweithredu ynddi.
Bydd yr arholiad yn cael ei asesu yn defnyddio astudiaeth achos a dewis o draethodau.
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol: