Mae ein Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Gwyddor Gymhwysol yn gymhwyster ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd eisiau parhau gyda'u haddysg yn y gwyddorau drwy ddysgu cymhwysol ac ymarferol, ac sydd â'r nod o symud ymlaen naill ai i brifysgol neu i gyflogaeth yn sector y gwyddorau. Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb naill ai mewn dod yn nyrs neu'n barafeddyg ar gyfer dysgwyr sydd eisiau astudio pwnc gwyddoniaeth yn y brifysgol.
Mae hwn yn gwrs dwy flynedd amser llawn. Ym Mlwyddyn 1, bydd dysgwyr yn cyflawni Tystysgrif Estynedig mewn Gwyddor Gymhwysol.
Tystysgrif Estynedig Blwyddyn 1
Blwyddyn 2
Bydd angen: 5 TGAU graddau A* i C, neu Ddiploma Lefel 2 gyda Llwyddo neu uwch. Gradd C neu uwch mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith, neu Lwyddo mewn Sgiliau Hanfodol Lefel 2 Cyfathrebu. Gradd C mewn TGAU Mathemateg, neu Lwyddo mewn Sgiliau Hanfodol Lefel 1 Rhifedd. CC neu uwch mewn TGAU Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl, C neu uwch mewn unrhyw wyddoniaeth (triphlyg) neu Glod mewn BTEC Gwyddoniaeth Gymhwysol Gyntaf / OCR Technegol mewn Gwyddoniaeth Lefel 2.
Asesir y cwrs drwy gyfuniad o asesiadau mewnol ac allanol.
Asesiad Mewnol
Bydd yr unedau a asesir yn fewnol yn cynnwys 3-4 o aseiniadau gwaith cwrs sy'n cael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd pob aseiniad yn mynd i'r afael â gwahanol bwnc o fewn yr uned. Rhaid i'r holl aseiniadau gael eu cyflwyno drwy Microsoft Teams.
Asesiad Allanol
Mae unedau 1, 3, 5, a 7 yn arholiadau ysgrifenedig sy'n cael eu sefyll ar adegau penodol ym mis Ionawr a mis Mai. Bydd yr asesiadau'n cael eu marcio a'u graddoli gan y bwrdd arholi. Rhyddheir canlyniadau arholiadau mis Ionawr ym mis Mawrth a bydd canlyniadau arholiadau mis Mai yn cael eu rhyddhau ym mis Awst.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster Diploma Estynedig yn gallu ymgeisio am gyrsiau prifysgol yn y gwyddorau, gwyddorau biofeddygol, Porth/Sylfaen i Feddygaeth neu Ddeintyddiaeth, Fferylliaeth, Gwyddor Chwaraeon a llawer mwy.