Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.
Mae’r cwrs yn galluogi dysgwyr i archwilio uned benodol o Ymchwiliad Creadigol Personol yn fewnol, a bydd yn datblygu eu sgiliau mewn dealltwriaeth gyd-destunol, creu creadigol, cofnodi myfyriol a chyflwyniad personol.
Bydd yr ymgeisydd yn archwilio thema gyffredinol trwy ymchwil hanesyddol a chyfoes i hysbysu dealltwriaeth a syniadau sydd yna'n addas i arbrofi ac archwilio creadigol. Bydd myfyrwyr yn mabwysiadu sgiliau dysgu adfyfyriol cyson, gan eu galluogi i esbonio, dadansoddi a chyfiawnhau eu gwaith yn weledol, ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â’i berthynas i waith eraill, gan gynhyrchu ymateb personol i alwadau'r cyfarwyddyd.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr brynu dyddlyfr gwaith A3 a chwblhau o leiaf 5 awr o astudio dan ei gyfarwyddyd ei hun yr wythnos.
Bydd yr ymgeisydd yn archwilio thema gyffredinol trwy ymchwil hanesyddol a chyfoes i hysbysu dealltwriaeth a syniadau sydd yna'n addas i arbrofi ac archwilio creadigol. Bydd myfyrwyr yn mabwysiadu sgiliau dysgu adfyfyriol cyson, gan eu galluogi i esbonio, dadansoddi a chyfiawnhau eu gwaith yn weledol, ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â’i berthynas i waith eraill, gan gynhyrchu ymateb personol i alwadau'r cyfarwyddyd.
Bydd disgwyl i unigolion brynu dyddlyfr gwaith A3 a chwblhau o leiaf 5 awr o astudio dan ei gyfarwyddyd ei hun yr wythnos.
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B Gofynion Eraill: Portffolio os ddim B mewn TGAU Celf
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol: