Hanes yr Henfyd - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
4 Medi 2025 — 21 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Nod y cwrs hwn yw adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd o astudiaeth blwyddyn gyntaf y cwrs hanes yr henfyd. Mae hwn wedi’i anelu’n bennaf at ddysgwyr sy’n dechrau’r ail flwyddyn, ond gall fod yr opsiwn i gyflymu hyn ar ôl ymgynghori â staff y pwnc. Mae’r cwrs hwn yn unigryw gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i astudio digwyddiadau ac unigolion allweddol o’r henfyd gan edrych ar ffynonellau llenyddol a materol ar yr un pryd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Rheoli Prydain Rhufeinig, 43 OC–c.128

Mae’r astudiaeth ddofn hon yn canolbwyntio ar y cydadwaith o ffactorau gwleidyddol, milwrol, cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a chrefyddol a effeithiodd ar y rhyngweithiadau cymhleth rhwng Ymerodraeth Rhufain a Phrydain. Ymysg pynciau eraill, byddwch yn astudio: 
Y berthynas rhwng Prydain ac Ymerodraeth Rhufain yn 43 OC; y rhesymau am Brydain yn cael ei goresgyn gan Rufain o dan Claudius; y ffactorau oedd yn dylanwadu ar bolisi milwrol Rhufain tuag at Brydain a’r camau i ehangu’r dalaith a sefydlu ffin; polisi milwrol a’i effeithiolrwydd o dan lywodraethwyr Prydain; ymgyrchoedd milwrol Agricola.
Y penderfyniad i adeiladu Mur Hadrian; nodweddion a swyddogaethau Mur Hadrian.
Y rhesymau dros Wrthryfel Buddug; canlyniadau gweithredoedd Buddug ac effaith y gwrthryfel ar bolisi Rhufain.

Esgyniad Macedon, c. 359–323 CC

Y twf yng ngrym Macedonia a rôl Philip yn y broses honno.
Y digwyddiadau allweddol yng ngyrfa Alexander a’u harwyddocâd. Bydd hyn yn cynnwys buddugoliaethau milwrol pwysig yn: y Granicus, Halicarnassus, Issus, Gaugamela;

Addysgu ac asesu

Dulliau addysgu ac asesu: Addysgir drwy gyfres o ddarlithoedd a seminarau.

Gofynion mynediad

5 TGAU A* - C, yn cynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg. Mae B mewn Saesneg yn ddymunol. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2025

Dyddiad gorffen

21 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F61
L3

Cymhwyster

Ancient History - A2

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Yn gyffredinol, mae dysgwyr yn symud ymlaen at Addysg Uwch neu gyflogaeth.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE