Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n gadael yr ysgol ac wedi ennill gradd B mewn Mathemateg ac sydd â diddordeb mewn Gwyddor Awyrofod a Hedfan gan gynnwys Peirianneg Gyffredinol. Bydd y cwrs yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen arnoch i weithio fel gosodwr awyrennau neu dechnegydd didrwydded yn y diwydiant awyrennau. Mae'r cwrs yn rhoi cyfle gwych i chi ddysgu am wahanol bynciau sy’n ymwneud ag awyrennau gan gynnwys: systemau, deunyddiau, caledwedd a gyriad awyrennau - i’ch rhoi yn y sefyllfa orau o ran gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant awyrofod.
Rhennir y cwrs yn dros ddwy flynedd. Ar ôl cwblhau'r flwyddyn gyntaf, byddwch yn ennill cymhwyster Diploma Lefel 3 cydnabyddedig mewn Technolegau Peirianneg. Yn dilyn cwblhau’r ail flwyddyn yn llwyddiannus, byddwch yn ennill Diploma Estynedig mewn Technolegau Peirianneg.
Mae’r cwrs yn gyfwerth â dwy Lefel A (hyd at 96 pwynt UCAS). Fe’ch cynghorir i gofrestru ar gyfer cwrs Lefel A Mathemateg ynghyd â’r cwrs hwn.
Tra byddwch ar y cwrs hwn byddwch yn astudio:
Blwyddyn 1 - Diploma mewn Peirianneg:
Dilyniant yn unig yw Blwyddyn 2 - Diploma Estynedig mewn Peirianneg Awyrenegol:
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau lleiafswm o 5 wythnos o brofiad gwaith perthnasol.
Caiff y cymhwyster ei asesu drwy gyfuniad o asesiadau ymarferol wedi'u llunio gan y ganolfan ac aseiniadau yn cwmpasu’r pynciau a fanylir arnynt yng nghynnwys y cwrs. Bydd eich sgiliau ymarferol yn y gweithdy yn cael eu hasesu yn barhaus a’u marcio.
Ymgeiswyr sydd ag o leiaf 5 TGAU - Gradd A* i C neu gyfwerth, neu raddau cyfwerth arfaethedig posib. Yn cynnwys A* i C mewn pwnc Mathemateg neu Wyddoniaeth, Ffiseg os yn bosibl.
Hefyd:
Yn gymwys i wneud cais ar gyfer y cwrs hwn.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Yr hyn a ddaliodd fy llygad ynghylch Coleg Caerdydd a’r Fro oedd y cyfleusterau arbennig yn y Llwybr Hyfforddiant Academaidd Clinigol Integredig a’r meintiau dosbarth llai. Mae gen i’r gallu i dreulio amser un i un gyda’r darlithwyr, sydd yn eithriadol o amyneddgar, ac yn eich helpu i ddeall y gwaith sy’n cael ei wneud. Mae derbyn y profiad hwnnw gyda phobl sydd â’r fath gyfoeth gwybodaeth am y diwydiant yn amrhisiadwy. Ers gadael Coleg Caerdydd a’r Fro, rwyf wedi cwblhau fy ngradd gyda Phrifysgol Kingston, ac wedi dechrau swydd gyda Babcock fel peiriannydd dylunio mecanyddol yn eu hadran systemau cenhadaeth yn gweithio ar longau tanfor. Nawr, mae’r wybodaeth a ddysgais yn fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Fro yn cael ei ddefnyddio wrth weithio.
Rydym yn annog myfyrwyr i gyflwyno ceisiadau ar gyfer Prentisiaethau sy'n cael eu dysgu yma yn ICAT neu unrhyw le yn y DU, ynghyd â chyrsiau AU e.e. BEng Peirianneg Awyrofod a Phrentisiaethau Gradd.