Mae ein Lefel A Cymraeg Ail Iaith yn gymhwyster ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd eisiau parhau â’u haddysg Gymraeg drwy ddysgu cymhwysol ac ymarferol, a’u nod yw symud ymlaen â’u sgiliau iaith yn y Gymraeg fel iaith ychwanegol. Gall myfyrwyr ddisgwyl i’r cwrs ddarparu Addysgu a Dysgu gyda’r nod o wella gwybodaeth am yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae hyn yn cynnwys unedau sy’n canolbwyntio ar hanes yr iaith, diwylliant a pholisïau’r iaith Gymraeg, eu pwrpas yw sicrhau defnydd ohoni a’i goroesiad.
Wedi’i lleoli ar ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn dod yn rhugl yn yr iaith Gymraeg neu ar gyfer dysgwyr sydd eisiau astudio ieithoedd/ieithyddiaeth yn y brifysgol, neu unrhyw bwnc sy’n ymwneud â diwylliant a hanes Cymru e.e Hanes, gwleidyddiaeth etc.
Mae hwn yn gwrs dros ddwy flynedd. Ym Mlwyddyn 1, bydd dysgwyr yn ennill eu Diploma Sylfaen mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol. Ym Mlwyddyn 2, byddant yn ychwanegu at eu cymhwyser i gyflawni'r Diploma Estynedig.
Unedau a astudir ym Mlwyddyn 2:
Adran A: Byw drwy gyfrwng y Gymraeg
Adran B: Trafod drama
Adran C: Ymateb personol Asesiad Synoptig
Adran A: Yn cynnwys astudiaeth o’r iaith Gymraeg mewn cymdeithas (cwestiynau yn seiliedig ar y testun gosod) e.e. Cyd-destun hanesyddol yr iaith Gymraeg o ganol yr 20fed ganrif hyd heddiw, sefydlu Llywodraeth Cynulliad Cymru ym 1998; Polisïau Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r Gymraeg etc.
Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio sefyllfa bresennol yr iaith Gymraeg e.e. pa heriau mae’r Gymraeg yn eu hwynebu ar lefel leol a chenedlaethol, beth sy’n cael ei wneud i hybu’r Gymraeg heddiw a pha dystiolaeth sydd o hyn yn lleol? Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i edrych ar eu bro leol e.e. cymryd rhan gyda’r Urdd; technoleg a’r iaith Gymraeg; enwogion lleol sy’n hyrwyddo’r iaith.
Adran B: Trawsieithu – ymateb ysgrifenedig yn Gymraeg i erthygl cyfrwng Saesneg
Adran A: Cwestiwn cyfansawdd sy’n cynnwys gwahanol fathau o ymarferion ieithyddol sy’n asesu gwybodaeth am ramadeg
Adran B: 2 gwestiwn yn seiliedig ar un o’r testunau gosod ac 1 cwestiwn sy’n dod â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd yn y pwnc ynghyd.
Asesir y cwrs drwy gyfuniad o asesiad mewnol ac allanol.
Asesiad Mewnol
Mae uned 3 a asesir yn fewnol yn cynnwys asesiad Llafar a gwblheir yn y coleg ym mhresenoldeb arholwr gwadd. Mae hyn yn cynnwys trafodaeth ar fyw drwy gyfrwng y Gymraeg, trafodaeth ar ddrama ac ymateb ar lafar personol, unigol.
Asesiad allanol
Ym Mlwyddyn 2, asesir Unedau 5 a 6 drwy arholiad yn nhymor yr haf ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae Uned 5 yn cynnwys un arholiad ysgrifenedig sy’n asesu astudiaeth myfyrwyr o'r Gymraeg mewn Cymdeithas ac mae Uned 6 yn cynnwys un arholiad sy’n asesu gwybodaeth ieithyddol myfyrwyr am y Gymraeg.
5 TGAU A* - C, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Iaith a Chymraeg Ail Iaith (B yn ddelfrydol)
Ieithoedd/ieithyddiaeth/Cyfieithu/cyfathrebu, Gwleidyddiaeth Cymru, Llywodraeth a Pholisi yn y Brifysgol.